Pentref bychan gwledig yn Sir Ddinbych yw Graigfechan(ynganiad) (amrywiad: Graig-fechan). Fe'i lleolir fymryn i'r gogledd o Bentrecelyn yn nwyrain y sir ar y B5479 tua hanner ffordd rhwng Rhuthun i'r gogledd a Llandegla-yn-Iâl i'r de-ddwyrain. Gorwedd wrth odrau gorllewinol Bryniau Clwyd.