Arferai Llangwyfan fod yn adnabyddus fel safle Ysbyty Llangwyfan neu Sanatoriwm Gogledd Cymru. Yn wreiddiol roedd hon yn ysbyty diciâu, ac yn ddiweddarach daeth yn ysbyty cyffredinol i anhwylderau'r frest, ond mae wedi cau erbyn hyn.
Eglwys Sant Cwyfan
Un o ddilynwyr Sant Beuno oedd Sant Cwyfan a roddodd ei enw i'r eglwys leol. Mae'r eglwys tua 1.5 km i'r gogledd-ddwyrain o Eglwys Sant Tyrnog, Llandyrnog a sonir amdani'n wreiddiol yn 1254 fel "Langeifin", ond dylid cofio nad oedd y cofnodwr trethi yn deall Cymraeg, heb sôn am ei sillafu. Ceir hefyd eglwys o'r un enw ar Ynys Cribinau ym Môn ac un arall yn Nhudweiliog, Gwynedd. Canfyddwyd olion yr eglwys cynharaf, canoloesol ger wal yn y gogledd, ond perthyn i'r 15C mae'r adeilad presennol.[3]