- Am enghreifftiau eraill o enwau lleol sy'n cynnwys y gair Betws, gweler Betws (gwahaniaethu).
Pentref bach gwledig, cymuned a phlwyf eglwysig yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Betws Gwerful Goch ( ynganaid )(ffurf hynafiaethol: Bet[t]ws Gwerfil Goch). Roedd gynt yn rhan o Sir Feirionnydd (tan 1974) ac ar ôl hynny Clwyd (1974 - 1996). Roedd Betws Gwerful Goch yn rhan o hen arglwyddiaeth annibynnol Dinmael yn yr Oesoedd Canol. Fe'i lleolir rhwng Melin y Wig a Chorwen yn ne eithaf y sir. Rhed Afon Alwen heibio iddi.
Yr eglwys a'r plwyf
Roedd Betws Gwerful Goch yn un o blwyfi hynafol cwmwd Edeirnion ym Merionnydd. Dywedid ei bod yn bosibl taflu carreg o lan yr eglwys i un o'r tair plwyf y mae ei ffiniau'n cwrdd yno, sef plwyfi Corwen, Llanfihangel Glyn Myfyr, a Gwyddelwern. Mae'r eglwys yn gysegredig i'r Santes Fair.
Ceir y cyfeiriad hanesyddol cyntaf at yr eglwys yn 1254, ond fel yn achos nifer o fannau eraill mae'n bosibl fod eglwys yno cyn hynny. Cafodd yr eglwys ei hatgyweirio'n sylweddol yn 1882 ond cedwir ynddi rhai o'r cerfiadau pren hynafol o'r hen eglwys.
Gwasanaethodd y llenor Edward Samuel, taid David Samwell (Dafydd Ddu Feddyg) fel rheithor y plwyf o 1702 hyd 1721, pan symudodd i blwyf Llangar.
Gwerful Goch
Roedd Gwerful yn ferch i Gynan (m. 1174) fab Owain Gwynedd, yn ôl rhai hen achau. Buasai yn ei blodau tua'r flwyddyn 1200 felly. Un o'i hewythrau oedd y bardd-dywysog enwog Hywel ab Owain Gwynedd. Cafodd ei chladdu yn Dinmael. Dyna'r cwbl sy'n hysbys amdani ond mae'r diweddar Athro Bedwyr Lewis Jones yn awgrymu iddi roi nawdd i godi capel anwes ('betws') yno a gafodd ei henwi'n Fetws Gwerful Goch wedyn.[1]
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Betws Gwerful Goch (pob oed) (351) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Betws Gwerful Goch) (204) |
|
59.8% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Betws Gwerful Goch) (208) |
|
59.3% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Betws Gwerful Goch) (40) |
|
29% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Gweler hefyd
Cyfeiriadau