Pentref a chymuned yn Sir Ddinbych yw Llanarmon-yn-Iâl(ynganiad) (Llanarmon ar lafar yn lleol). Saif ar y ffordd B5431, gerllaw'r gyffordd a'r B5430, i'r dwyrain o dref Rhuthun a chwe milltir i'r de o'r Wyddgrug. Llifa Afon Alun heibio'r pentref, ac mae Llwybr Clawdd Offa rhyw filltir a hanner i'r gorllewin.
Yn ogystal â Llanarmon ei hun, mae'r gymunedd yn cynnwys pentrefi llai Eryrys a Graeanrhyd.