Pentref a chymuned yn Sir Ddinbych yw Aberchwiler ( ynganiad ) (Saesneg: Aberwheeler). Saif i'r gogledd-ddwyrain o dref Dinbych, lle mae Afon Chwiler yn ymuno ag Afon Clwyd. Mae pentref Bodfari ychydig i'r gogledd.
Mae'r gymuned yn cynnwys rhan o Fryniau Clwyd; y pwynt uchaf ynddi yw copa Moel-y-Parc (398m). Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 327.
Hanes
Yn hanesyddol, ffurfiodd Aberchwiler drefgordd plwyf hynafol Bodfari, a oedd hefyd yn cynnwys Maesmynan a Blorant. Ar un adeg roedd y faenor yn eiddo i Gwenllian. Roedd melin wedi'i lleoli yn Aberchwiler o'r canol oesoedd. Llosgwyd y felin ym 1403, er iddi gael ei phrydlesu yn ddiweddarach i Thomas Londisdale a Henry Billiger ym mis Tachwedd 1408 ar y sail eu bod yn ei hailadeiladu.
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Aberchwiler (pob oed) (298) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Aberchwiler) (81) |
|
27.6% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Aberchwiler) (157) |
|
52.7% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Aberchwiler) (48) |
|
35.3% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Cyfeiriadau