Pentref bychan gwledig a chymuned yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Cyffylliog( ynganiad ). Fe'i lleolir tua 4 milltir i'r gorllewin o dref Rhuthun ar ffordd wledig sy'n arwain i gyfeiriad Bylchau a Llansannan. Rhed Afon Clywedog trwy'r pentref ar ei ffordd o Fforest Clocaenog i ymuno yn Afon Clwyd, ac mae Afon Corris yn ymuno ag Afon Clywedog yn y pentref.
Lleolir Ysgol Cyffylliog yn y pentref gyda tua 18 o blant.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Darren Millar (Ceidwadwyr) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan David Jones (Ceidwadwr).[1][2]
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Cyffylliog (pob oed) (495) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Cyffylliog) (255) |
|
52.9% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Cyffylliog) (291) |
|
58.8% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Cyffylliog) (55) |
|
28.8% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Cyfeiriadau