Mae'r pentref yn gorwedd ar bwys cymer yr afonydd Cledwen, Gallen, a Collen (sy'n troi'n Afon Elwy ) ar lôn yr A548, tua 7 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Lanrwst ac 10 milltir i'r de-orllewin o Abergele ar y lôn honno. Mae'n gorwedd mewn dyffryn deniadol yng nghanol bryniau isel wrth droed bryn Tre-pys-llygod.
Hynafiaethau
Mae'r eglwys, sy'n gysegredig i Sant Digain, yn hen ond wedi'i hatgyweirio'n sylweddol. Mae'r bedyddfaen yn dyddio o'r 15g. Ym mynwent yr eglwys ceir dau bâr o feini hirion cynhanesyddol; rhywbryd yn ystod yr Oesoedd Canol cynnar cerfiwyd croesau arnyn nhw (maen nhw'n debyg i groesau eraill sy'n perthyn i'r seithfed neu'r 8g). Ar ben hynny cawsant eu gosod fel beddfeini i ddau fedd o'r 17g. Ceir coeden ywen yn y fynwent sy'n hen iawn. Saif Hen domen Castell Isaf tua kilometr i'r gogledd o'r pentref, sef tomen amddiffynnol o'r Oesoedd Canol.
Hanner milltir i'r gorllewin, ar bwys yr hen lôn i Eglwysbach, ceir plasdy Hafodunos. Bu plasdy ar y safle yn y 16g ond mae'r plasdy Gothig presennol yn dyddio o'r 1860au. Syr George Gilbert Scott oedd y pensaer. Cafodd ei ddifrodi'n sylweddol gan dân yn 2004.
Yn y pentre mae Amgueddfa Syr Henry Jones yn adeilad 'Y Cwm' lle ganwyd Syr Henry Jones "Yr Athro Alltud" a ddaeth yn arloeswr ym myd addysg a rhyddfrydiaeth grefyddol, yn ogystal ag athronydd dylanwadol yng Nghymru a'r Alban.
↑"Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nifer sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
↑[2]; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013