Afon yn ne Powys sy'n llifo i mewn i afon Nedd yw Afon Nedd Fechan.
Ceir tarddle'r afon yn y Fforest Fawr ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ar lethrau dwyreiniol Fan Gyhirych. Mae'n llifo tua'r de am 12 km / 7 milltir, gydag afon Pyrddin yn ymuno â hi ger y Pwll Du ar Byrddin, cyn ymuno ag Afon Mellte ger Pontneddfechan, i ffurfio Afon Nedd.
Ceir nifer o raeadrau ar yr afon, yn cynnwys Sgŵd Ddwli a Sgŵd Pedol. Mae dyffryn yr afon yn rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac Ardal Gadwraeth Arbennig.