Pentref bychan a chymuned ar Ynys Gybi, Ynys Môn, yw Rhoscolyn. Fe'i lleolir ychydig dros bum milltir i’r de o Gaergybi, yn y rhan mwyaf deheuol o Ynys Cybi. Ffurfia ran ddeheuol Ynys Gybi ac mae'n cynnwys pentref Pontrhydybont yn ogystal â Rhoscolyn ei hun. Sefydlwyd un o fadau achub cyntaf Ynys Môn yma tua 1830. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 484 ac yn 2011 roedd yn 542.
Ceir Eglwys y Santes Gwenfaen yn Rhoscolyn, eglwys a sefydlwyd yn wreiddiol yn 630, ond a ailadeiladwyd yn Eglwys yn 1870. Dywedir mai 'Llanwenfaen' oedd yr hen enw am Roscolyn ei hun.[1] Enwir yr ysgol gynradd leol yn Ysgol Gwenfaen ar ei hôl.
Mae'r ysgol gynradd ychydig dros milltir or pentref.
Ar y pentir yn Rhoscolyn, mae yna dwll enfawr a chanoedd o flynyddoedd yn ôl, lle profwyd pobl a oedd dan amheuaeth o fod yn euog o drosedd. Gwneid iddynt neidio dros y twll, ac os llwyddid, yna cant fynd adref. Os methid, yna cant eu carcharu.
Gallwch gerdded y llwybr arfordirol a mynd i draethau hyfryd ar yr arfordir.
↑"Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.