Un o atyniadau nodweddiadol y pentref yw Melin Llynnon, yr unig felin wynt sy'n parhau i weithio a chynhyrchu blawd yng Nghymru heddiw. Yn ogystal, mae yna felin ddŵr yn y pentref ar lan Afon Alaw, o'r enw 'Melin Hywel'; mae ar agor i'r cyhoedd yn yr haf ar ôl iddi gael ei hatgyweirio yn 1975. Cofnodir melin yn y plwyf yn 1352.
Ysgol
Sefydlwyd Ysgol Llanddeusant yn y pentref yn 1847. Er gwaethaf ymdrechion pobl leol i'w hachub[3], caewyd Ysgol Gynradd Llanddeusant yng Ngorffennaf 2011 ar ôl gwasanethu'r pentref am 160 mlynedd. Ar yr 2il o Hydref 2013, rhoddodd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Ynys Môn ganiatad i'r cyngor ddymchwel adeilad yr ysgol a chodi 8 o dai ar y safle.
Enwogion
Robert ap Huw (1580 - 1665). Telynor enwog, bardd ac awdur llawysgrif ar gerddoriaeth gynnar Cymru, a aned ym Modwigan, ym mhlwyf Llanddeusant.