Pentref yng nghymuned Rhosyr, Ynys Môn, yw Llangaffo[1][2] ( ynganiad ). Saif yn ne-orllewin yr ynys ar y ffordd rhwng Pentre Berw a Niwbwrch, lle mae'r ffyrdd B4419 a B4421 yn cyfarfod. Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gwmwd Menai, cantref Aberffraw.
Hanes
Mae'r eglwys wedi ei chysegru i Gaffo, sant o'r 6g. Er bod yr eglwys bresennol yn ddiweddar, yn dyddio o'r 19g, mae casgliad diddorol o gerrig beddi a chroes hynafol yma. Mae'r garreg hynaf yn dyddio o'r 7g, ac yn ôl yr arysgrif armi wedi ei gosod yn ei lle gan ŵr o'r enw Gwerni neu Gwern. Ceir yma groes olwyn yn dyddio o'r 10fed neu'r 11g a nifer o gerrig beddau eraill o'r 9g hyd y 13g. Credir bod mynachlog wedi bod ar y safle yma yn y cyfnod cynnar.
Tua milltir i'r de o Langaffo ceir safle hen blas Mysoglen (ffermdy Maesoglan heddiw) a fu'n un o brif ganolfannau nawdd Beirdd yr Uchelwyr ar yr ynys yn yr 16g.
Addysg
Enw llawn yr ysgol gynradd, a sefydlwyd yn 1854 yw Ysgol Wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru Llangaffo.
Hanes Lleol
Y gred ydy fod Caffo yn ddisgybl i Sant Cybi a sefydlodd fynachlog yng Nghaergybi tua 540 a’i fod yntau wedi sefydlu clas [sef math o fynachlog gynnar] yn Llangaffo yn yr un cyfnod. Yn ôl y chwedl cafodd ei ladd gan fugeiliaid Rhosyr. Roedd Ffynnon Caffo sydd wedi diflannu erbyn heddiw yn yr ardal ond mae Crochan Caffo yn dal yn enw ar fferm.[3]
Mae mynwent yr eglwys yn bwysig gan fod nifer o gerrig cynnar efo croesau arnynt yno. Mae’r rhain yn dyddio o’r 9g i’r 11g. Er mor ddiddorol ydyn nhw nid y rhain oedd yn mynd â sylw Bedwyr. Mae’r garreg hynaf yn y festri. Pan welodd Edward Llwyd hi tua 1699 roedd hi’n sefyll ar ochr y ffordd, wedyn cafodd ei defnyddio fel cilbost giât cyn ei symud i’r festri tua 1865.
Yn yr eglwys, ar yr ochr chwith i’r allor, yn y gongl ceir carreg a’r enwau CURIS (Ceris) a CINI wedi eu torri arni, sef yr enwau Cymraeg ysgrifenedig cyntaf a gadwyd i ni. Fe’u cerfiwyd, meddir, rywdro tua 625. Os oedd y Gymraeg yn ddigon parchus i gael ei defnyddio’n swyddogol ar garreg goffa yr adeg honno, fe ellwch fentro bod yr iaith yn cael ei siarad yn yr ardal ers dwy genhedlaeth a rhagor cyn hynny. Ers rhywdro tua 550, felly. Mae hynny bedwar cant ar ddeg o flynyddoedd yn ôl. Yn ôl Bedwyr ac eraill, mae pawb yn cytuno mai enwau Cymraeg ydy’r rhain gan nad oes ganddynt derfyniadau fel Lladin a Brythoneg ond dydy ysgolheigion diweddar ddim yn cytuno â dyddiad yr ysgrifen ar y garreg. Mae Nancy Edwards, Athro Archaeoleg ym Mhrifysgol Bangor, yn credu ei bod ychydig yn fwy diweddar.
Mae’r garreg yn anodd iawn ei darllen erbyn heddiw, beth bynnag ydy union ddyddiad yr arysgrif mae’n dal yn enghraifft gynnar iawn o enwau Cymraeg wedi eu cerfio ar garreg.[4]
Cyfeiriadau