Un capel sydd ar ôl yn y pentref, sef Capel Siloam (Annibynnol). Mae Capel Nyth Clyd (Presbyteriaid) wedi cau. Yma hefyd ceir Ysgol Talwrn, ysgol gynradd leol sydd yn nalgylch Ysgol Gyfun Llangefni ac sydd dan fygythiad o gael ei chau am ei bod yn rhy fychan.
I'r dwyrain o Dalwrn ceir Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Bodeilio.
Mae Talwrn yn rhan o gymunedLlanddyfnan. Yn ôl Cyfrifiad 2011, roedd 724 o boblogaeth (3 oed a throsodd) Llanddyfnan yn gallu siarad Cymraeg (70.2% o'r boblogaeth 1,032 oedd yn 3 oed neu'n hŷn).[4]