Pentref bychan gwledig a phlwyf eglwysig yng nghymunedLlanddyfnan, Ynys Môn, yw Llangwyllog[1][2] (ynganiad). Saif yng nghanol yr ynys 3 milltir i'r gogledd o dref Llangefni a 2 filltir o Lyn Cefni. Cofnodir poblogaeth o 277 yn 1821, ond erbyn 1971 dim ond 75 o bobl oedd yn byw yno.
Mae'r eglwys yn weddol hen gyda rhannau yn dyddio o'r 15g efallai. Yn ôl traddodiad cafodd ei sefydlu gan y Santes Cwyllog (Cywyllog) yn y 6g ar dir a roddwyd iddi gan y brenin Maelgwn Gwynedd.[3]
Yn yr Oesoedd Canol gorweddai'r plwyf yng nghwmwd Menai. Bu brwydr yn y cyffiniau yn y flwyddyn 1134 rhwng byddin Owain Gwynedd, brenin Teyrnas Gwynedd, a llu o Northmyn a Manawyr a geisiodd oresgyn yr ynys. Enillodd gwŷr Gwynedd y dydd.