Tref a chymuned ar Ynys Môn yng ngogledd-orllewin Cymru yw Porthaethwy. Mae'n edrych dros Afon Menai ac yn gorwedd ger Pont Menai, a adeiladwyd yn 1826 gan Thomas Telford, ychydig dros y dŵr o Fangor. Saif ar lan Afon Menai ac mae'r bont Menai yn ei gysylltu i lan Cymru. Mae ganddi boblogaeth o 3,376 sef y pumed dref fwyaf ar ynys Môn[1].
Hanes
Daw’r enw o Porth + Daethwy, yr olaf yn enw llwyth Celtaidd lleol (gweler hefyd Dindaethwy, enw'r cwmwd lleol yn yr Oesoedd Canol). Sefydlwyd trigfan yma ers canrifoeddd oherwydd hwn yw pwynt culaf Afon Menai, felly yn le croesi cyfleus. Yn y 9g dyma lle daeth Tysilio i fyw fel meudwy ar yr ynys fechan sydd bellach yn dwyn ei enw a sefydlu’r eglwys.
Bu fferi yn croesi’r Fenai yma ers canrifoedd: y cofnod cyntaf ohono yn 1292. Parhaodd felly fel un o’r croesfannau pennaf.
Pan agorwyd Pont Y Borth ym 1826, ‘daeth oes y fferi i ben, ond parhaodd cysylltiadau’r Borth a’r môr, gyda masnachwyr yn mewnforio ac allforio, a diwydiant adeiladu llongau lleol. Y llongfasnachwyr pennaf yn y 19g oedd teulu Davies o Dreborth.
Cafodd Ynys Môn ei wahanu o Gymru ar ôl llanw uchel tua 8,000 i 9,000 o flynyddoedd yn ôl.
Mae'r afon sydd yn rhedeg drwy Borthaethwy yn rhedeg am 16 milltir o Biwmares i Abermenai.
Pan gafodd Pont y Borth, ei hadeiladu, yn 1826 gan Thomos Telford, y bont oedd yr un mwyaf yn ei chyfnod.
Mae’r ffair yn dyddio’n ôl i 1691. Roedd yn ffair geffylau i ddechrau, ac roedd mart prynu a gwerthu anifeiliaid yn rhan annatod o’r ffair hyd at yr 1970au. Bu yn ffair gyflogi hefyd. Roedd yn un o achlysuron mawr y flwyddyn i lawer o werin bobl Môn ac Arfon. Dyma hen bennill amdani:
Heddiw, mae’r ffair yn parhau i’w chynnal yn flynyddol, fel ffair bleser yn bennaf, sydd yn ôl traddodiad yn cael ei gynnal ar dir cyffredin sy'n gwasanaethu fel maes parcio gweddill y flwyddyn. Ar Hydref 24, diwrnod y ffair, bydd ffyrdd ar gau er mwyn cynnal nifer o stondinau.
Lleolir rhaglen deledu S4C, Rownd a Rownd yma, a’r dref yn cynnwys siopau ffug sy’n setiau deledu pwrpasol ar gyfer y gyfres. Mae’n gartref i fand pres Porthaethwy.
↑"Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.