Plwyf eglwysig a phentref bychan ar wasgar yng nghymunedLlangristiolus, Ynys Môn, yw Cerrigceinwen[1][2] (ynganiad) (neu Cerrig Ceinwen). Fe'i lleolir yn ne-orllewin yr ynys tua 2 filltir a hanner i'r de-orllewin o Langefni.
Enwir Cerrigceinwen ar ôl Ceinwen, santes leol a gysylltir â Llangeinwen ar yr ynys yn ogystal. Mae'n bosibl bod cerrig neu feini goffa yma ar un adeg, ond does dim byd i'w weld erbyn heddiw. Cofnodir ffynnon sanctaidd o'r enw "Ffynnon Cerrig Ceinwen" yn y plwyf yn 1893.[3]