- Erthygl am y pentref ym Môn yw hon. Gweler hefyd Brynteg (gwahaniaethu).
Pentref bychan yng nghymuned Llanfair Mathafarn Eithaf, Ynys Môn, yw Brynteg[1] neu Bryn-teg[2] ( ynganiad ). Saif yn nwyrain yr ynys, tua milltir a hanner i'r gorllewin o dref Benllech, ar groesffordd y B5108 a'r B5110.
Ceir hen felin wynt ar gyrion y pentref a hefyd cwrs golff Brynteg. Mae tafarn y California Arms yng nghanol y pentref.
Tua chwarter milltir i'r dwyrain o Frynteg ceir hen fryngaer o'r enw Dinas.
Cyfeiriadau