Magwyd Llinos Medi yn Ynys Môn a magodd ddau o blant ei hun ar yr ynys. Treuliodd chwech mlynedd fel arweinydd Cyngor Ynys Môn.[1]
Yn 2020, dewiswyd Llinos fel un o 100 o fenywod Cymru i'w dathlu ar ddiwrnod rhyngwladol menywod yn 2020.[2]
Yn Hydref 2023, cadarnhawyd Llinos Medi fel ymgeisydd San Steffan i Blaid Cymru yn Ynys Môn.[3]
Yn ôl arolwg barn gan Survation yn Chwefror 2024, roedd Llinos Medi ar y blaen i ennill sedd Ynys Môn gyda 39% o'r bleidlais. Roedd Llafur ar 27%, y Ceidwadwyr ar 26% (yn dal y sedd yn bresennol) a Diwygio ar 4%.[4]