Pentref bychan yng nghymunedY Fali, Ynys Môn, yw Llanynghenedl[1][2] (ynganiad). Saif yng ngogledd-orllewin yr ynys ar briffordd yr A5025 gerllaw ei chyffordd gyda'r B5109, ychydig i'r gogledd-ddwyrain o'r Fali ac i'r de o Lanfachraeth.
Dywedir fod yr eglwys, a gysegrwyd i Sant Enghenedl (amrywiad: "Ynghenedl"), ar safle eglwys hŷn yn dyddio i'r 7g.
Ceir maen hir mewn cae ger y pentref a adnabyddir fel "Maen hir Llanynghenedl".