Saif y pentref yn agos i Draeth Dulas a Thraeth Llugwy, ac mae twristiaeth yn bwysig yn yr ardal, gyda nifer o wersylloedd carafannau. Dyddia'r eglwys i ddiwedd y 19g, ac agorwyd neuadd gymumedol yn 1995. Ceir yma hefyd ganolfan arddio a Tyddyn Môn, canolfan ddysgu i rai dan anfantais.