- Am leoedd eraill o'r un enw, gweler Carmel (gwahaniaethau).
Pentref bychan yng nghymuned Llannerch-y-medd ar Ynys Môn yw Carmel ( ynganiad ). Fe'i lleolir ar y lôn B5112 tua dwy filltir a hanner i'r de-orllewin o Lannerch-y-medd. Y pentref agosaf i gyfeiriad y de yw Trefor, hefyd ar y B5112. Mae 137.1 milltir (220.7 km) o Gaerdydd a 219.8 milltir (353.7 km) o Lundain.
Fel sawl lle arall yng Nghymru, mae enw'r pentref yn tarddu o'r enw beiblaidd Mynydd Carmel.
Cynrychiolaeth etholaethol
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Llinos Medi (Plaid Cymru).[2]
Cyfeiriadau