Ynys oddi ar pen gogledd-orllewinol Ynys Môn yw Ynys Gybi (Saesneg: Holy Island). Ei harwynebedd yw tua 464 hectar neu 15.22 milltir sgwâr. Fe'i henwir ar ôl Sant Cybi, nawddsant Caergybi. Ceir nifer sylweddol o safleoedd hynafol ar yr ynys, yn feini hirion, siambrau claddau a chytiau'r Gwyddelod a safleoedd cysylltiedig â Christnogaeth gynnar ac olion Celtaidd. Yn ôl Cyfrifiad 2011, mae gan Ynys Gybi boblogaeth o 13,659 ac roedd 11,431 (84%) o'r boblogaeth yn byw yng Nghaergybi ei hun.
Daearyddiaeth
Y dref fwyaf ar yr ynys yw Caergybi, sy'n borthladd pwysig ers canrifoedd a lleoliad yr harbwr ar gyfer y llongau fferi i Iwerddon. Mynydd Twr (722 troedfedd, 220 m) yw bryn uchaf Ynys Gybi a gweddill Môn.
Ceir nifer o glogwynni ar hyd yr arfordir gorllewinol gydag ynysoedd bychain fel Ynys Lawd, gyda'i goleudy enwog, ac Ynys Arw. Cafwyd nifer o londdrylliadau dros y blynyddoedd. Mae tua 30 milltir o Lwybr Arfordirol Ynys Môn (sy'n 125 milltir o hyd) i'w gael o amgylch Ynys Gybi.