Cymuned a phlwyf yng ngorllewin Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Cilymaenllwyd. Ymestynna'r gymuned oddeutu'r briffordd A478 a rhannau uchaf Dyffryn Taf, ac mae ger y ffin â Sir Benfro. Mae'n cynnwys pentrefi Efail-wen a Login.
Ceir nifer o henebion diddorol yn y gymuned, yn cynnwys cylch meini Meini Gŵyr. Ceir hefyd croes eglwysig bwysig gerllaw, sef Croes Eglwys Llanglydwen. Eglwys Sant Cledwyn yw'r unig eglwys i'w chysegru i Sant Cledwyn. Dywedir fod Cledwyn yn fab i Brychan, Brenin Brycheiniog a oedd yn dad i 40 o blant.[1] Cofnodwyd ei henw'n gyntaf yn 1291.
Yn yr ardal yma y dechreuodd Terfysgoedd Rebeca. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 724, gyda 66.29% a rhywfaint o wybodaeth o'r Gymraeg.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Ann Davies (Plaid Cymru).[3]
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Cilymaenllwyd (pob oed) (742) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Cilymaenllwyd) (396) |
|
55% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Cilymaenllwyd) (492) |
|
66.3% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Cilymaenllwyd) (100) |
|
32.5% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Cyfeiriadau
Dolen allanol