Pentref yng nghymuned Amroth, Sir Benfro, Cymru, yw Wiseman's Bridge. Saif 67 milltir (107.8 km) o Gaerdydd a 196.1 milltir (315.6 km) o Lundain.
Mae'r ffurf Gymraeg Pont-yr-ŵr i'w gweld ar-lein mewn nifer fechan o enghreifftiau.[1] Ond ni chyfeirir at y ffurf honno yn y gwaith safonol ar enwau lleoedd Sir Benfro ac mae ei tharddiad yn dywyll.[2]
Yn y 19g roedd glo lleol o ansawdd uchel yn cael ei allforio o Wiseman's Bridge mewn llongau 50 neu 60 tunnell.[3] Roedd y llwybr droed sy'n cysylltu Wiseman's Bridge a thraeth Coppet Hall ar un adeg yn drac rheilffordd oedd yn cael ei ddefnyddio i gludo glo i Harbwr Saundersfoot.[4][5]
Yn 1943, bu Winston Churchill ar ymweliad â'r ardal, ble roedd y cynghreiriaid yn ymarfer ar gyfer glaniadau D-Day.[6]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[7] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[8]
Cyfeiriadau