Pentref a chymuned yn Sir Benfro, Cymru, yw Tiers Cross.[1] Ymddengys nad oes enw Cymraeg arno.[2] Saif yng ngorllewin y sir, ar ffordd gefn rhwng Hwlffordd ac Aberdaugleddau, ychydig i'r gorllewin o briffordd yr A4076. Roedd poblogaeth y gymuned yn 471 yn 2001.
Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentrefi Dreenhill a Thornton. Saif yn y rhan y mae Gwyddoniadur Cymru yn ei ddisgrifio fel y "rhan leiaf diddorol o Sir Benfro". Bu David Lloyd George yn byw yn ffermdy Bulford am ychydig dros flwyddyn pan oedd yn ieuanc.[3]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[4] ac yn Senedd y DU gan Stephen Crabb (Ceidwadwr).[5]
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8][9]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Tiers Cross (pob oed) (576) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Tiers Cross) (80) |
|
14.2% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Tiers Cross) (414) |
|
71.9% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Tiers Cross) (69) |
|
33.7% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Cyfeiriadau