Pentref bychan a phlwyf eglwysig yng nghymuned Cas-mael, Sir Benfro, Cymru, yw Cas-fuwch[1] (Saesneg: Castlebythe).[2] Fe'i lleolir yng ngogledd y sir 6 milltir i'r de-ddwyrain o Abergwaun, ar lethrau bryniau'r Preseli.
Mae rhan ogleddol y plwyf eglwysig yn gorwedd o fewn ffin Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae'r enw Saesneg Castlebythe yn seisnigiad o'r enw Cymraeg, sy'n cyfeirio at safle castell mwnt a beili Normanaidd ger y pentref.[3]
Cyfeiriadau