Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig yn Sir Benfro, Cymru, yw Martletwy.[1] Nid ymddengys fod enw Cymraeg am y pentref.[2] Saif i'r dwyrain o Afon Cleddau, tua hanner y ffordd rhwng Hwlffordd a Dinbych y Pysgod.
Ail-adeiladwyd yr eglwys, a gysegrwyd i Sant Marchell yn yr Oesoedd Canol, yn 1848-1850.
Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentrefi Landshipping a Lawrenni, ac yn ymestyn at lan Afon Cleddau. Ar un adeg, bu mwyngloddio ac allforio glo carreg yn weddol bwysig yn yr ardal. Ceir canolfan ymwelwyr Oakwood, gyda reidiau ac atyniadau eraill, o fewn y gymuned. Roedd poblogaeth y gymuned yn 523 yn 2001.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[4]
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Martletwy (pob oed) (570) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Martletwy) (81) |
|
14.6% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Martletwy) (335) |
|
58.8% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Martletwy) (62) |
|
26.8% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Cyfeiriadau