- Am leoedd eraill o'r un enw, gweler Llangwm (gwahaniaethu).
Pentref a chymuned yn Sir Benfro, Cymru, yw Llangwm.[1] Saif i'r de-ddwyrain o dref Hwlffordd ar lan orllewinnol Afon Cleddau, fymryn islaw cymer Afon Cleddau Wen ac Afon Cleddau Ddu.
Fel y ddau Langwm arall yng Nghymru (gweler Llangwm), cysegwryd yr eglwys leol i Sant Sierôm, ac mae'n cynnwys nifer o nodweddion diddorol. Prif ddiwydiant y pentref am flynyddoedd lawer oedd casglu pysgod cregyn, yn enwedig cocos.
Ar un adeg roedd y gymuned yn fwy, ond yn 1999 daeth y rhan ogleddol o amgylch Hook yn gymuned ar wahân. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 854.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Henry Tufnell (Llafur).[3]
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Llangwm, Sir Benfro (pob oed) (875) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llangwm, Sir Benfro) (100) |
|
11.7% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llangwm, Sir Benfro) (573) |
|
65.5% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Llangwm, Sir Benfro) (119) |
|
32.2% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Cyfeiriadau