Pentref bychan yng nghymuned Uzmaston, Boulston a Slebets, Sir Benfro, Cymru, yw Slebets[1] (Saesneg: Slebech). Cyn 2012 roedd yn gymuned ynddo'i hun. Saif yng ngorllewin y sir, i'r dwyrain o dref Hwlffordd ger priffordd yr A40, ar lan ogleddol Afon Cleddau Ddu. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 172.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Henry Tufnell (Llafur).[3]
Hanes
Roedd gan urdd Marchogion Sant Ioan gomawndri yn Slebets; yr unig un yng Nghymru. Sefydlwyd hwn gan arglwyddi Cas-wis tua chanol y 12g. Pan ddiddymwyd y mynachlogydd yn y 16g, daeth eglwys y comawndri yn eglwys y plwyf. Yn yr eglwys mae bedd William Hamilton, oedd yn un o sylfaenwyr tref Aberdaugleddau; mae'n fwy enwog oherwydd i'w wraig, Emma, gael carwriaeth adnabyddus a'r Arglwydd Nelson.
Saif Castell Pictwn o fewn y gymuned, ac yn 2006 dechreuwyd adeiladu pentref gwyliau Bluestones yma. Bu llawer o brotestion ynghylch y cynllun, gan fod rhan o'r safle ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Pobl o Slebets
Bachgen o Slebets oedd Roger Barlow a fu ar fordaith gyda Sebastian Cabot yn 1526 ac a gyfieithodd y Suma de Geographie o'r Sbaeneg i'r Saesneg; sef disgrifiad o diroedd y Byd Newydd.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau