Mae ansicrwydd dros ffurf gywir enw'r pentref yn Gymraeg. Cyfeirir at y pentref fel 'Ystagbwll' ar wefan Cyngor Sir Benfro.[5] Ymddangosir yr enw fel 'Ystangbwll' ar arwyddion ffordd wrth fynd mewn i'r pentref (gweler y llun uchod).
Yn y 19g roedd stad Stackpole, oedd yn eiddo i deulu Campbell, yn berchen ar 21,000 hectar yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin; dim ond stad Wynnstay yn y gogledd-ddwyrain oedd yn fwy yng Nghymru.