Pentref bychan yng nghymuned Cilgeti a Begeli, Sir Benfro, Cymru, yw Stepaside.[1][2] Fe'i lleolir yn ne-ddwyrain y sir, tua 2 filltir i'r gogledd o Saundersfoot, 4 milltir i'r gogledd o Ddinbych-y-Pysgod. Mae ei enw Saesneg yn adlewyrchu'r ffaith ei fod i'r de o'r Landsker.
Ar un adeg bu'r pentref yn gartref i byllau glo a haearn, ond erbyn heddiw mae wedi troi'n bentref tawel sy'n dibynnu ar dwristiaeth. Ceir un dafarn yno. Lleolir Parc Etifeddiaeth Stepaside ar y ffordd o'r pentref i Wisemans Bridge.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Henry Tufnell (Llafur).[4]
Cyfeiriadau