Pentref bychan yng nghymuned Nanhyfer, Sir Benfro, Cymru, yw Felindre Farchog.[1][2] Fe'i lleolir yng ngogledd y sir tua 7 milltir i'r de-orllewin o Aberteifi (Ceredigion).
Mae'n gorwedd ym mhlwyf eglwysig Y Beifil. Rhed y briffordd A487 trwy'r pentref gan ei gysylltu gyda Trefdraeth ac Aberteifi. Ar un adeg bu cloddio am fwyn yn yr ardal a cheir adfeilion sawl mwynglawdd yn y gymdogaeth.
Cyfeiriadau