Pentref bychan yng nghymuned Amroth, Sir Benfro, Cymru, yw Llan-teg[1] neu Llanteg[2] (Seisnigiad hynafiaethol: Lanteague). Mae'n rhan o gymuned Amroth yn ne-ddwyrain Sir Benfro. Rhed y briffordd A477 drwy'r pentref.
Mae'n rhan o blwyf eglwysig Cronwern.[3]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[4] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[5]
Cyfeiriadau