Pentref a chymuned yn Sir Benfro, Cymru, yw Rhosfarced neu Rosemarket[1] (Saesneg: Rosemarket). Saif yn ne-orllewin y sir, i'r gogledd-ddwyrain o dref Aberdaugleddau. Daw'r enw'r pentref o enw'r cantref canoloesol, Rhos, a'r gair Saesneg market ('marchnad').[2] Cyfeiria hyn at y farchnad a sefydlwyd yma yn y 12g gan Farchogion Sant Ioan o Slebets.
Cysegrir yr eglwys i Sant Ismael. Y mwyaf nodedig o hynafiaethau'r ardal yw colomendy canoloesol, sydd a lle i dros 200 o nythod. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 454.
↑"Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.