Pentref, plwyf a chymuned yn ne Sir Benfro, Cymru, yw Cosheston.[1] Nid ymddengys fod enw Cymraeg iddo. Saif i'r gogledd-ddwyrain o dref Penfro a ger Cilfach Cosheston neu Cosheston Pill, sy'n arwain i mewn i Afon Cleddau.
Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentrefi Upton a Nash. Ceir rhannau o gastell o'r 13g wedi ei ymgorffori ym mhlasdy Upton. Roedd poblogaeth y gymuned yn 713 yn 2001.
Mae gan y plwyf arwynebedd o 813 hectar ac mae eglwys y plwyf wedi'i chysegru i Sant Mihangel.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[3]
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Cosheston (pob oed) (828) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Cosheston) (86) |
|
10.7% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Cosheston) (499) |
|
60.3% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Cosheston) (116) |
|
34.5% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Cyfeiriadau