Digwyddiad aml-chwaraeon rhyngwladol ydy Gemau Olympaidd yr Haf 2024, a adnabyddir yn swyddogol fel Gemau'r XXXIII Olympiad ac a gynhelir ym Mharis, Ffrainc, o 26 Gorffennaf hyd 11 Awst2024.[1] Cynhwyswyd tri deg dau o chwaraeon.
Cystadleuodd 68 gwlad gyda phoblogaeth llai na Chymru (gweler isod).
Seremoni agoriadol
Cynhaliwyd y seremoni agoriadol yng nghanol Paris. Teithiodd cynrychiolwyr o'r gwledydd oedd yn cystadlu ar hyd yr Afon Seine mewn cwch. Cafwyd perfformiadau gan sawl cerddor a dawnsiwr enwog, gan gynnwys Céline Dion, Lady Gaga, a'r band Gojira.[2]
Medalau
Mae gan bob medal yn y Gemau hyn ran o haearn gwreiddiol y Tŵr Eiffel ynddi ar ffurf hecsagon i gynrichioli siâp Ffrainc. Mae ochr ôl y medalau yn dangos Nike (duwies Groeg am fuddugoliaeth) tu fewn i Stadiwm Panathenaic. Dyma lle bu'r Gemau Olympaidd Modern Cyntaf yn 1896. Mae pob medal yn pwyso 455–529g.[3]
Dechrau cystadleuaeth
Enillodd tîm Prydain ei fedal gyntaf ar ddiwrnod cyntaf y gystadleuaeth. Daeth Yasmin Harper a Scarlett Mew Jensen yn drydydd yn y blymio cydamserol gan ennill medal efydd.[4]
Cymry yn y Gemau
Roedd 31 o athletwyr o Gymru'n cystadlu yn y Gemau Olympaidd fel rhan o dîm Prydain yr haf hwn - y nifer fwyaf ers dros ganrif - gan gynnwys enwogion fel Emma Finucane, Jade Jones, Josh Tarling a Jeremiah Azu. Unwaith yn unig y bu mwy na hyn, sef 32 yn Llundain yn 1908, ond bryd hynny 'doedd gan Gymru ddîm tîm hoci yn cystadlu. Roedd 17 o'r 31 yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd am y tro cyntaf.[5]
Y gwledydd a gymerodd ran a'u poblogaeth
Dyma restr o'r gwledydd hynny a gymerodd ran yng Ngemau Olympaidd 2024, yn nhrefn eu poblogaeth. Ni chynhwyswyd y Tîm Olympaidd Ffoaduriaid gan mai tabl am boblogaeth yw hwn. Er mwyn cymhariaeth, rydym wedi nodi safle Cymru, gyda'i phoblogaeth (yn 2024) o 3.1 miliwn, er na chystadleuodd Cymru fel gwlad. Pe bai Cymru wedi cymryd rhan, hi fyddai'r 138fed gwlad fwyaf ei phoblogaeth allan o 206 gwlad h.y. roedd 68 gwlad gyda phoblogaeth llai na Chymru'n cymryd rhan.