Ychydig sy'n hysbys am hanes cynnar y wlad. Gwelwyd tonnau olynol o ymsefydlu yn y wlad, hyd at y 19g, gan bobloedd Pygmi i ddechrau ac yna ar raddau mwy sylweddol gan y Bantu, sy'n ffurfio mwyafrif y boblogaeth erbyn heddiw. Yn ystod y mudo hyn daeth yr Ewropeiaid cyntaf, y Portiwgaliaid, i lannau Gabon yn y 15g. Daw'r enw 'Gabon' o'r enw PortiwgalegGabão "penrhyn", oherwydd siâp yr aber lle saif Libreville heddiw. Cipiodd Ffrainc y wlad oddi ar Portiwgal yn 1855. Cafodd y wlad ei hannibyniaeth 17 Awst, 1960.
Gwleidyddiaeth
Mae gan Gabon system arlywyddol. Arlywydd cyntaf Gweriniaeth Gabon oedd Léon Mba. Yr ail arlywydd, o 1967 hyd 2009, oedd Omar Bongo Ondimba.
Ffrangeg yw'r brif iaith a'r unig iaith swyddogol ond sieredir sawl iaith brodorol yn ogystal.
Gyda'i chymydog Camerŵn mae Gabon yn gartref i ddiwylliant y Ffangiaid, grŵp ethnig sy'n adnabyddus am ei dawnsiau a'i chelf dradoddiadol, yn arbennig ei masgiau trawiadol.