Tiriogaeth yr Unol Daleithiau yn ne'r Cefnfor Tawel yw Samoa America neu Samoa Americanaidd (Samöeg: Amerika Sāmoa neu Sāmoa Amelika). Fe'i lleolir yn hanner dwyreiniol Ynysoedd Samoa ym Mholynesia. Mae'r ynysoedd gorllewinol yn ffurfio gwlad annibynnol Samoa (Gorllewin Samoa gynt).
Cafodd ynysfor Samoa ei rannu yn ddwy diriogaeth gan Gytundeb Berlin 1899. Cytunwyd i roi ynysoedd y gorllewin i'r Almaen, ynysoedd y dwyrain i'r Unol Daleithiau, a Ffiji i Brydain. Dan ddylanwad pennaeth Llynges yr Unol Daleithiau dros y Cefnfor Tawel, a'i ganolfan yn Pago Pago, gorfodwyd penaethiaid Samoa America i arwyddo dogfennau i ildio'u hynysoedd i'r Unol Daleithiau. Gwnaed Tutuila ac Aunu'u yn "diriogaethau anghorfforedig" Americanaidd ym 1900 a grŵp Manu'a (Ofu, Olosega, Ta'u, Atol Rose, Ynys Swain) ym 1904.
Llwyddodd y llynges i ennill rheolaeth dros y diwydiant copra, a chefnogai'r Eglwys Gynulleidfaol yn erbyn diddordebau'r penaduriaid lleol. Ceisiodd Adran Fewnwladol yr Unol Daleithiau i ymgorffori'r diriogaeth yn y 1950au, a chafodd hyn ei wrthsefyll gan y penadur Tuiasosopo.[1]
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd Samoa America ei milwroli oherwydd ei lleoliad strategol yn y frwydr yn erbyn Japan yn y Cefnfor Tawel. Trigai mwy o filwyr Americanaidd ar yr ynysoedd na Samoaid brodorol. Hyd heddiw, mae Maes Awyr Pago Pago yn cynnal ehediadau ar gyfer awyrennau milwrol, ac hyfforddir milwyr Samoaidd yng Nghanolfan Wrth Gefn Byddin yr Unol Daleithiau.[1]
Ar ddechrau'r 21g, ymdrechodd llywodraeth yr Unol Daleithiau i dynnu Samoa America oddi ar restr y Cenhedloedd Unedig o wledydd sydd heb eu datrefedigaethu.
Cyfeiriadau
↑ 1.01.1Dan Taulapapa McMullin, "American Samoa" yn Thomas Benjamin (gol.), Encyclopedia of Western Colonialism since 1450, cyfrol 1 (Farmington Hills, Michigan: Thomson Gale, 2007) t. 44.