Cymdeithasau Cenedlaethol Gemau'r Gymanwlad

Cymdeithasau Cenedlaethol Gemau'r Gymanwlad
Arwyddlun Gemau'r Gymanwlad
Mathcorff llywodraethu chwaraeon Edit this on Wikidata

Cymdeithas Gemau'r Gymanwlad (Commonwealth Games Association, CGA) yw cyngor chwaraeon cenedlaethol mudiad Gemau'r Gymanwlad. Mae pob cymdeithas yn gyfrifol am drefnu, cefnogi a goruchwylio eu tîm cenedlaethol yng Ngemau'r Gymanwlad.[1] Mae'r cymdeithasau'n ddarostyngedig i reolau Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad ac yn adrodd iddynt.[2] Yn ogystal â hyrwyddo chwaraeon yn genedlaethol, gall cymdeithas hefyd wneud cais am Gemau'r Gymanwlad ar gyfer darpar ddinas ar gyfer cynnal y Gemau.[3][4] Er bod gan rai cenhedloedd gymdeithas ar ei phen ei hun sy'n delio'n llwyr â Gemau'r Gymanwlad, mewn llawer o genhedloedd y Gymanwlad, mae'r Pwyllgor Olympaidd Cenedlaethol lleol yn cyflawni swyddogaeth Cymdeithas Gemau'r Gymanwlad ar gyfer y genedl honno. Mewn ychydig o genhedloedd, fel Eswatini a Malawi, mae'r sefydliad lleol yn cario'r ddau enw yn ei deitl arferol.

Cymru

Er nad oes gan Gymru dîm, ac felly, Cymdeithas Olympaidd ei hun, mae ganddi gymdeithas genedlaethol ar gyfer Gemau'r Gymanwlad, sef Gemau'r Gymanwlad Cymru sydd â'r phencadlys yng yng Ngerddi Soffia, Caerdydd. GGC sy'n gyfrifol am weindyddiaeth a chydlunu'r timau sy'n cystadlu ar ran Cymru yn Gemau'r Gymanwlad a Gemau Ieuenctid y Gymanwlad.

Cymdethasau cenedlaethol

America

Asia

Ewrop

Oceania

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolenni allanol