Gemau Ieuenctid y GymanwladDigwyddiad aml-chwaraeon rhyngwladol yw Gemau Ieuenctid y Gymanwlad ('Commonwealth Youth Games') a drefnir gan Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad. Mae'r gemau'n cael eu cynnal bob pedair blynedd gyda fformat cyfredol Gemau'r Gymanwlad. Cynhaliwyd y gemau cyntaf yng Nghaeredin, yr Alban rhwng 10 a 14 Awst 2000. Cyfyngiad oedran yr athletwyr yw 14 i 18 mlwydd oed. HanesTrafododd Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad y syniad o Gemau Ieuenctid y Gymanwlad ym 1997. Ym 1998 cytunwyd ar y cysyniad at ddiben darparu digwyddiad aml-chwaraeon y Gymanwlad i bobl ifanc a anwyd yn y flwyddyn galendr 1986 neu'n hwyrach.[1] Rhifyn o'r gemauCaeredin 2000 - Cynhaliwyd rhifyn cyntaf Gemau Ieuenctid y Gymanwlad yng Nghaeredin, yr Alban rhwng 10 a 14 Awst 2000. Bu 15 gwlad yn cystadlu am 483 o fedalau dros 3 diwrnod o gystadlu mewn 8 camp. Cymerodd cyfanswm o 773 o athletwyr, 280 o Swyddogion Technegol a thua 500 o wirfoddolwyr ran yn y digwyddiad. Ymladdwyd wyth o chwaraeon. Roedd y rhain yn cynnwys: Athletau, Cleddyfa, Gymnasteg, Hoci, Tenis Lawnt, Sboncen, Nofio a Chodi Pwysau.[2] Bendigo 2004 - Cynhaliwyd ail rifyn Gemau Ieuenctid y Gymanwlad yn Bendigo, Awstralia rhwng 30 Tachwedd a 4 Rhagfyr 2004, cymerodd 22 gwlad ran a chystadlu mewn 10 digwyddiad chwaraeon a wasgarwyd dros gyfnod o 3 diwrnod, a oedd yn cynnwys Athletau, Badminton, Paffio, Bowls Lawnt, Roedd Rygbi 7 bob ochr, Bowlio Tenpin, Nofio, Beicio, Gymnasteg a Chodi Pwysau. Roedd 980 o athletwyr a swyddogion tîm yn rhan o'r Gemau yn Bendigo.[1] Pune 2008 - Cynhaliwyd trydydd rhifyn Gemau Ieuenctid y Gymanwlad yn Pune, India rhwng 12 a 18 Hydref 2008. Cymerodd dros 1,220 o athletwyr a 350 o swyddogion o 71 gwlad ran yn y gemau hyn, mewn 9 disgyblaeth -Athletics, Badminton, Paffio, Saethu, Nofio, Tenis Bwrdd, Tenis, Codi Pwysau a reslo.[3] Ynys Manaw 2011 - Cynhaliwyd pedwerydd rhifyn Gemau Ieuenctid y Gymanwlad yn Ynys Manaw rhwng 7 a 13 Medi 2011. Cystadlodd 811 o athletwyr o 64 o genhedloedd y Gymanwlad yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad 2011.[4] Aeth Cymru â charfan o 32 chwaraewr gan gynnwys pencampwr ifanc nofio Ewrop, Ieuan Lloyd o Benarth.[5] Samoa 2015 - Cynhaliwyd pumed rhifyn Gemau Ieuenctid y Gymanwlad yn Apia, prifddinas Samoa. Samoa oedd yr unig gynigwyr ar gyfer y Gemau. Cymerodd tua 807 o athletwyr o 65 o genhedloedd a thiriogaethau ran yn y naw camp: dyfrol, saethyddiaeth, athletau, bocsio, bowlenni lawnt, rygbi saith bob ochr, sboncen, tenis a chodi pwysau.[6] Nodwyd bod y Gemau'n llwyddiant i dîm Cymru a enillodd 2 fedal aur, pum arian, a dwy efydd.[7] Cafwyd eitem ar y Gemau ac ar dîm Cymru yn benodol ar S4C.[8] Bahamas 2017 - Cynhaliwyd chweched rhifyn Gemau Ieuenctid y Gymanwlad yn Nassau, Bahamas. Cynhaliwyd y gemau rhwng 18 a 23 Gorffennaf 2017. Y chwaraeon a ymleddwyd yn y Bahamas 2017 oedd Athletau, Nofio, Pêl-droed Traeth, Bocsio, Beicio (Ffordd), Judo, Rygbi Saith Bob Ochr, Tenis a Phêl-foli Traeth. Hwn oedd y tro cyntaf i Judo, Beach Soccer a Beach Volleyball gael eu cyflwyno mewn Gemau Ieuenctid y Gymanwlad.[9] Chef de Mission tîm Cymru i'r Gemau oedd Gerwyn Owen.[10] Trinidad a Tobago 2021 - Cynhelir y seithfed rhifyn o'r Gemau yn ynysoedd Trinidad a Tobago sydd yn y Caribî, oddi ar arfordir Feneswela.[11] CymruGweinyddir tîm Cymru gan Gemau'r Gymanwlad Cymru sy'n gyfrifol am holl dimau, gweinyddu a strwythur paratoi a chydlynu Gemau'r Gymanwlad yng Nghymru. Mae Ieuenctid Cymru wedi cystadlu ymhob un o'r Gemau ers y cychwyn. Cafwyd eitem ar raglen i blant ar S4C am y Gemau yn Somoa yn 2015 ar raglen Clwb 2. Nodwyd buddugoliaethau'r tîm a llwyddiant Catrin Jones o Fangor, enillydd y fedal aur yn categori codi pwysau 48 kg y Merched.[8] Rhestr Gemau Ieuenctid y GymanwladTabl Lleoliadau Gemau'r Gymanwlad Ieuenctid
Tabl medalauRhwng Gemau Ieuenctid y Gymanwlad gyntaf yn 2000 a 2017 y wlad a enillodd y fwyaf o fedalau oedd Awstralia (112 medal) gyda Lloegr yn ail (102) a De Affrica yn drydydd (80). Roedd Cymru yn y 9fed safle gyda 30 medal alan o 51 gwlad.[13] Cyfeiriadau
Dolenni allanolInformation related to Gemau Ieuenctid y Gymanwlad |