Enillydd y goron oedd Elinor Gwynn (ffugenw 'Carreg Lefn') o Rhostryfan ger Caernarfon; roedd 33 wedi cystadlu a'r dasg oedd creu casgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn heb fod dros 250 llinell ar y testun 'Llwybrau'. Y tri beirniad oedd Siân Northey, Menna Elfyn ac Einir Jones.
Gwobr Goffa Daniel Owen
Enillydd y wobr oedd Guto Dafydd gyda'i nofel Ymbelydredd, gyda naw o lenorion yn cystadlu. Ysgrifennu nofel o dros 50,000 o eiriau, gyda llinyn stori cryf yn nadreddu drwyddi oedd y gamp. Y wobr oedd Medal Goffa Daniel Owen a £5,000, wedi ei gyflwyno gan Gymuned Llanofer. Y beirniaid oedd Jon Gower, Fflur Dafydd a Gareth F. Williams.
Enillydd y tlws oedd Gareth Olubunmi Hughes o Gaerdydd, yr ail dro iddo ennill ar ôl ei lwyddiant yn Eisteddfod Bro Morgannwg 2012. Y dasg oedd cyfansoddi pedair cân i gyfeiliant piano i lais isel, gan ddefnyddio geiriau Cymraeg gan fardd cyfoes. Y wobr yw Tlws y Cerddor (Urdd Cerddoriaeth Cymru) a £750 ac Ysgoloriaeth gwerth £2,000 i hyrwyddo gyrfa'r cyfansoddwr buddugol. Y beirniaid oedd Jeffrey Howard ac Osian Llŷr Rowlands.[7]
Y Fedal Ddrama
Enillydd y fedal oedd Hefin Robinson, yn wreiddiol o Gaerfyrddin, am ei ddrama Estron; roedd 12 o ymgeiswyr a'r dasg oedd ysgrifennu ddrama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd. Y beirniaid oedd Aled Jones Williams, Catrin Jones Hughes a Ffion Haf.
Rhai digwyddiadau
Y Lle Celf
Y Lle Celf yw oriel gelfyddydau gweledol yr Eisteddfod ac mae’n un o’r adeiladau mwyaf poblogaidd ar y Maes gan ddenu, fel arfer, hyd at 40,000 o ymwelwyr. Mae’r oriel yn gartref i waith rhai o artistiaid blaenaf Cymru, a’r gwaith wedi'i ddewis fel rhan o’r arddangosfa agored; mae gwaith enillwyr y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain, y Fedal Aur am Grefft a Dylunio a’r Fedal Aur am Bensaernïaeth i’w gweld yn Y Lle Celf. Ymhlith y digwyddiadau roedd Dafydd Iwan yn arwain sesiwn am y pensaer Dewi-Prys Thomas.
Caffi Maes B
Cafwyd cerddoriaeth acwstig, gweithdai, comedi, sgyrsiau gyda cherddorion ac artistiaid a phob math o weithgareddau am y sîn roc Gymraeg. Ymhlith y bandiau a'r cerddorion roedd:
Hyll: band o Gaerdydd a gyrhaeddodd rownd derfynol Brwydr y Bandiau yn Eisteddfod Maldwyn.
Sorela: grŵp gwerin harmoni newydd o Aberystwyth. Penderfynodd y tair chwaer, Gwenno, Mari a Lisay, ffurfio Sorela ar ôl blynyddoedd o ganu gyda'u mam, Linda Griffiths, o’r grŵp gwerin Plethyn.
Argrph: Band wedi'u dylanwadu gan gerddoriaeth surf-rock o orllewin U.D.A, gyda chymysgedd o elfennau grunge a bandiau mwy trwm a psychedelic y sîn yng Nghymru. Mae'r caneuon wedi eu hysgrifennu gan Emyr Siôn, sydd hefyd yn canu a chwarae gitâr, gydag Alun Bryn ar y bas a Tomos Evans ar y drymiau.
Cadno: Band arall o Gaerdydd a gyrhaeddodd rownd derfynol Brwydr y Bandiau 2015. Eu sengl gyntaf oedd Ludagretz a ryddhawyd ar label JigCal.
Trwbz: Band a chyfuniad cymysg o roc, pop a'r blŵs.
Cpt Smith: Mae Cpt Smith yn dilyn ôl traed 'Y Ffug' fel cyn-ddisgyblion yn Ysgol y Preseli, gyda'u cerddoriaeth pync. Rhyddhawyd y sengl ddwbl 'Llenyddiaeth // Bad Taste' ganddynt ar label Ka Chinh.
Maes D
Maes D (neu 'Babell y Dysgwyr') yw’r lle i ddysgwyr Cymraeg neu am wybodaeth am yr iaith. Yma, daw pobl at ei gilydd i gymdeithasu, cystadlu, rhannu profiadau, mwynhau cwmni siaradwyr Cymraeg ac i gael gwybodaeth am gyrsiau Cymraeg. Cystadleuaeth fwyaf Adran y Dysgwyr yw Dysgwr y Flwyddyn. Un o'r sesiynau a drefnwyd ar gyfer Maes D oedd sesiwn o gerddoriaeth gwerin gyda Dylan Fowler a Gill Stevens, dau gerddor sydd wedi perfformio ar draws y byd, ac sy’n defnyddio pob math o offerynnau, gan gynnwys y crwth fel rhan o’u perfformiad.
Tŷ Gwerin
Trefnwyd y Tŷ Gwerin mewn partneriaeth gyda Trac, Clera a Chymdeithas Genedlaethol Dawns Werin Cymru. Mae'r babell yn ymwneud gyda thraddodiadau gwerin Cymru yn yr ystyr ehangaf bosibl, gyda chyfle i fwynhau rhai o’n traddodiadau cynhenid mewn ffordd newydd (ee Stomp Cerdd Dant) yn ogystal â sesiynau ar bynciau cyffredinol.
Anrhydeddau'r Orsedd
Un o ofynion yr Orsedd yw fod pob person a enwebir yn gallu siarad Cymraeg. Cant eu hurddo ar Faes yr Eisteddfod, ar fore dydd Gwener, 5 Awst.
Gwisg Las
Roger Boore, Caerdydd – Sylfaenydd Gwasg y Dref Wen
Rhiannon Davies, Y Fenni – Swyddog Iaith Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Robin Harries Aled Davies, Coleford, Swydd Gaerloyw – Arweinydd y gwaith o godi arian yn lleol ar gyfer yr Eisteddfod eleni a sylfaenydd Cymdeithas Gymraeg Trefynwy a’r Cylch
H Ellis Griffiths, Dinas Powys – Pennaeth Ysgol Gyfun Gwynllyw
Brian Jones, Llanarthne, Sir Gaerfyrddin – Pennaeth Cwmni Bwydydd Castell Howell
Emyr Wyn Jones, Y Bala – cyn-Lywydd Undeb Amaethwyr Cymru 2011-15
Richard Jones, Wrecsam – Pencampwr plant ac ieuenctid sydd ag anghenion addysgol, yn benodol ym maes Syndrom Down
Sue Roberts, Pwllheli – cydlynydd Cylch Catholig Cymru, gan weithio i ddod â’r Gymraeg yn rhan o’r Eglwys
Ceri Thomas, Y Fenni – Cadeirydd Eisteddfod Y Fenni
Gwenda Thomas, Castell-nedd – cyn Aelod Cynulliad Castell-nedd
John Gordon Williams, Lerpwl – cyn llywydd y Gymdeithas Feddygol Gymraeg ac aelod blaenllaw o gymuned Gymraeg Lerpwl
Gwyneth Williams, Pontsenni – Hyfforddwraig llefaru i blant a phobol ifanc
Dafydd Wyn, Glanaman – un o sylfaenwyr papur bro Glo Mân a bardd nifer o gadeiriau mewn eisteddfodau lleol
Gwisg Werdd
Carole Collins, Prion, Dinbych - un sy’n gweithio dros y Gymraeg yn ei bro ac a lwyddodd i sicrhau lle i’r Gymraeg, eisteddfodau ysgol a’r Urdd yn rhai o ysgolion Seisnig yr ardal.
Martha Davies, Lincoln, Nebraska – a ddysgodd Cymraeg ar ôl symud i Aberystwyth am bedair blynedd, sydd hefyd yn rhedeg Prosiect Canolfan Gymreig y Gwastadedd Mawr yn Nebraska.
Jennifer Eynon, Wrecsam – Hyfforddwraig llefaru i blant a phobol ifanc
Gruffydd John Harries, Mwmbwls, Abertawe – Cerddor, sydd wedi gweithio gyda’r Eisteddfod Genedlaethol ar nifer o gyngherddau
Anne Hughes, Tongwynlais – arbenigwraig y ddawns werin Gymreig ac un o sefydlwyr dawnswyr Gwerinwyr Gwent
Ken Hughes, Cricieth – pennaeth cynradd a fu’n gyfrifol am sgriptio a chyfarwyddo sioe gynradd yr Urdd yn 1990
Gwyn Elfyn Lloyd Jones, Pontyberem, Llanelli – actor a Chadeirydd Menter Iaith Cwm Gwendraeth Elli
Megan Jones, Penparcau, Aberystwyth – cadeirydd pwyllgor y papur bro lleol, Yr Angor, ac un sydd wedi codi miloedd i elusennau drwy fudiadau dyngarol yng Ngheredigion
Siân Lewis, Caerdydd – Prif Weithredwr Menter Iaith Caerdydd, a fu’n gyfrifol dros ddechrau gŵyl Tafwyl yn y ddinas a datblygiad Yr Hen Lyfrgell diweddar
Wyn Lodwick, Pwll, Llanelli – cerddor jazz, sydd wedi hyrwyddo’r Gymraeg a’r diwylliant drwy gyfrwng jazz ac yn gyffredinol, yng Nghymru a thu hwnt
Ruth Lloyd Owen, Llanddoged, Llanrwst – athrawes a chyfansoddwraig sydd wedi cyfrannu dros yr iaith a diwylliant ei hardal
Dafydd Meirion Roberts, Caernarfon – Prif Weithredwr cwmni recordio Sain, ac aelod o Ar Log