Prifardd ac enillydd y Goron yn Eisteddfod Sir y Fflint 2007 yw Tudur Dylan Jones a adnabyddir fel arfer fel Tudur Dylan (ganed 30 Mehefin 1965). Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Bro Colwyn yn 1995, pan oedd ei dad, y Prifardd John Gwilym, yn archdderwydd, ac yn Eisteddfod Eryri a'r Cyffiniau yn 2005. Ef yw meuryn Ymryson y Beirdd a gynhelir yn y Babell Lên yn ystod wythnos yr Eisteddfod.
Fe'i ganed yng Nghaerfyrddin, ond fe'i maged ym Mangor, lle mynychodd Ysgol Tryfan. Ym Mangor yr aeth i'r Brifysgol hefyd. Athro ysgol yn Ysgol Gyfun y Strade, Llanelli yw Tudur Dylan wrth ei alwedigaeth. Bellach mae'n byw yng Nghaerfyrddin gyda'i wraig. Mae'n dad i ddwy ferch.
Ef oedd Bardd Plant Cymru 2004–2005.
Llyfryddiaeth
- Adenydd, cyfrol o gerddi, 2001[1][2]
- Byd Llawn Hud (Ceri Wyn Jones, Tudur Dylan, Mererid Hopwood, Sonia Edwards, Elinor Wyn Reynolds), Gorffennaf 2004, (Gwasg Gomer)
- Caneuon y Coridorau, Mehefin 2005, (Gwasg Carreg Gwalch)
- Rhywun yn Rhywle: Cerddi Cyntaf i Blant, Tachwedd 2005, (Gwasg Gomer)
- Y Bancsi Bach (cyfrol o gerddi, 2013)
- Am yn Ail, 2021, cyfrol o gerddi ar y cyd gyda'i dad John Gwilym Jones
Fel cyfieithydd
Dolenni allanol
Cyfeiriadau