Y beirniaid oedd Wil Ifan, Gwilym R. Jones a Thomas Parry. Roedd yn gystadleuaeth wan, gyda Wil Ifan a Gwilym R. yn anfoddog ond yn y diwedd cytunwyd coroni Bened sef y Parch. G. J. Roberts, rheithior Nantglyn, Sir Ddinbych. Y farn gyffredinol oedd bod y bardd yn defnyddio geirfa hen ac anghyfarwydd, ond sylwer fod Thomas Parry yn y feiriadaeth gyhoeddedig yn cyfiawnhau defnydd y bardd o'r eirfa hen ac anghyfarwydd.[1]