Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llŷn ac Eifionydd 2023 ym Moduan, Gwynedd, rhwng 5 - 12 Awst 2023.[16] Hwn oedd Eisteddfod olaf yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd.
Llywydd yr Ŵyl oedd Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, ac roedd hefyd yn un o feirniaid cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn.[17]
Erbyn diwrnod cyntaf yr Eisteddfod, roedd £503,610 wedi ei godi gan y gronfa leol, y tro cyntaf iddo basio'r hanner miliwn. Dywedodd Ashok Ahir, Llywydd Llys yr Eisteddfod, na fyddai'r fath ymdrech yn bosib os nad oedd yr Eisteddfod yn teithio o amgylch Cymru.[18]
Cyngherddau
Cychwynnodd yr Eisteddfod gyda chyngerdd dan y teitl ‘Y Curiad: Ddoe, Heddiw, Fory’ ar y nos Sadwrn yng nghwmni’r grŵp gwerin, Pedair (Gwyneth Glyn, Gwenan Gibbard, Meinir Gwilym a Siân James), a Côr Gwerin yr Eisteddfod. Roedd nifer o artistiaid amlwg Cymru yn westeion arbennig, sef Gwilym Bowen Rhys, Elidyr Glyn, Einir Humphreys, Twm Morys, Tudur Phillips, Patrick Rimes a band gwerin.
Roedd y Gymanfa Ganu yn y Pafiliwn Mawr nos Sul, 6 Awst, fel arfer, gyda’r arweinydd profiadol Pat Jones wrth y llyw. Yr organydd oedd Ilid Anne Jones a bydd Côr y Gymanfa’n ymuno i ganu’r emynau, ynghyd â chanu cyfres o drefniannau newydd o rai o ganeuon enwocaf Leila Megàne, y mezzo-soprano enwog o Lŷn. Bydd nifer o’r caneuon yn adnabyddus iawn, gan gynnwys - ‘Gwlad y Delyn’, ‘Bwthyn Bach To Gwellt’, ‘Pistyll y Llan’, ‘Y Nefoedd’ a ‘Dafydd y Garreg Wen’. Paratowyd y trefniannau gan Ilid Anne Jones, ac fe’u golygwyd gan Huw Gwynne.[19]
Roedd cynllun arbennig yn cynnig tocynnau am ddim i deuluoedd incwm isel sy'n byw yng Ngwynedd. Clustnodwyd £150,000 o gymorth ariannol gan Llywodraeth Cymru i gefnogi'r cynllun.[20]
Daeth glaw trwm ar y dydd Sadwrn cyntaf gan greu pyllau dŵr a mwd ond roedd y cae yn sychu'n gyflym, ac roedd y tywydd yn gymharol braf weddill yr wythnos.[21]
Prif gystadlaethau
Y Gadair
Enillydd y Gadair oedd Alan Llwyd (ffugenw "Llanw a Thrai"). Traddodwyd y feirniadaeth gan Karen Owen, ar ran ei chyd-feirniaid Cathryn Charnell-White a Rhys Iorwerth. Dim ond 6 ymgeisydd oedd eleni ac roedd yn syndod i'r beirniaid fod cyn lleied wedi ymgeisio, yn enwedig wedi i'r pandemig oedi'r cystadlu am bron i dair blynedd. Y dasg oedd llunio awdl ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol, heb fod yn fwy na 250 o linellau, ar y testun Llif. Dywedodd y beirniaid fod y "tri mewn cytundeb llwyr, yn dawel ein meddyliau, mai Llanw a Thrai ydi'r bardd sydd ar y brig, a'i fod yn gwbl deilwng o'r Gadair a phob braint ac anrhydedd a berthyn iddi".[2]
Noddwyd y Gadair gan deulu’r diweddar Dafydd Orwig, addysgwr, arloeswr a chyn-gadeirydd Cyngor Sir Gwynedd. Mae'r Prifardd yn derbyn y gadair a £750. Cynlluniwyd a chrëwyd y Gadair gan Stephen Faherty sy'n byw ger Rhuthun ond yn hanu o ardal Porthmadog. Lluniwyd y Gadair o ddarn mawr o goeden dderw a blannwyd ar ymyl y Lôn Goed dros 200 mlynedd yn ôl.[22]
Y Goron
Enillydd y Goron oedd Rhys Iorwerth (ffugenw "Gregor"). Traddodwyd y feirniadaeth gan Jason Walford Davies ar ran ei gyd-feirniaid Marged Haycock ac Elinor Wyn Reynolds. Cystadlodd 42 eleni a'r dasg oedd cyflwyno casgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn, heb fod dros 250 o linellau ar y testun Rhyddid. Yn cloi ei feirniadaeth, dywedodd Jason Walford Davies "Yr hyn a geir gan Gregor yw enghraifft loyw o fewnoli'r testun gosod i'r fath raddau nes bod 'pwnc' arwynebol yn troi'n rhan fywiol o weadwaith yr iaith a'r meddwl."[23]
Creuwyd y goron gan Elin Mair Roberts o'r Ffôr, ger Pwllheli ac fe'i noddwyd gan Gangen Sir Gaernarfon Undeb Amaethwyr Cymru. Roedd yna hefyd wobr ariannol o £750, a roddwyd gan deulu Bryn Bodfel, Rhydyclafdy, er cof am Griffith Wynne.
Gwobr Goffa Daniel Owen
Yr enillydd oedd Alun Ffred Jones o Lanllyfni. Traddodwyd y feirniadaeth gan Sioned Wiliam, ar ran ei chyd-feirniaid Mared Lewis a Dewi Prysor. Tasg y gystadleuaeth oedd creu nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau. Y wobr yw Medal Goffa Daniel Owen a £5,000 gafodd ei roi gan Williams Homes a Grŵp Cynefin.
Daeth 10 cynnig ar y gystadleuaeth eleni a dywedodd y beirniaid bod "gan bob nofelydd rhywbeth gwahanol iawn i’w gynnig ac fe gafodd Mared a Dewi a finne bleser mawr yn trafod eu gwaith…". Roedd y tri beirniaid yn unfrydol fod "Gwynt y Dwyrain" gan Gerddi Gleision yn llwyr haeddu Gwobr Daniel Owen 2023.[24]
Y Fedal Ryddiaith
Enillydd y Fedal oedd Meleri Wyn James o Aberystwyth gyda'i nofel Hallt dan y ffugenw "Fi a Ti".
Y dasg oedd cyfansoddi cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y thema "Porth". Yn ogystal â derbyn y Fedal Ryddiaith roedd gwobr ariannol o £750, yn rhoddedig er cof am Robyn a Gwenan Léwis, gan y teulu.
Thraddodwyd y feirniadaeth gan Menna Baines, ar ran ei chyd-feirniaid Lleucu Roberts ac Ion Thomas.[25]
Y Fedal Ddrama
Enillydd y Fedal oedd Cai Llewelyn Evans, sy'n wreiddiol o Bontarddulais ac yn byw yn Nhreganna, Caerdydd, am ei ddrama Eiliad o Ddewiniaeth (ffugenw "Wasabi"). Roedd 26 ymgais eleni. Traddodwyd y feirniadaeth gan Steffan Donnelly ar ran ei gyd-feirniaid Seiriol Davies ac Elgan Rhys. Y dasg oedd ysgrifennu ddrama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd.
Cyflwynwyd y Fedal er cof am Eiryth ac Urien Wiliam, rhoddedig gan eu plant, Hywel, Sioned a Steffan yn ogystal â gwobr o £750 (Cronfa Goffa Huw Roberts, Pwllheli). Cyflwynwyd rhan o’r gwaith buddugol yn Seremoni’r Fedal Ddrama gyda chefnogaeth Cronfa Goffa JO Roberts.[8]
Canlyniadau cystadlaethau
Bandiau Pres
1. Bandiau Pres Pencampwriaeth | Dosbarth 1
1. Seindorf Arian Deiniolen
2. Band Arian Llaneurgain
3. Seindorf Beaumaris
3. Bandiau Pres Dosbarth 4
1. Band Pres Treffynnon
2. Band Pres Porthaethwy
3. Seindorf Arian yr Oakeley, Blaenau Ffestiniog
4. Bandiau Pres Ieuenctid
1. Seindorf Ieuenctid Beaumaris, Beaumaris
2. Band Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn, Caernarfon
Cerdd Dant
5. Côr Cerdd Dant dros 20 mewn nifer
1. Côr yr Heli
2. Côr Trillyn
3. Côr Tônteg
6. Parti Cerdd Dant
1. Lleisiau Ceiri
2. Parti Tegeirian
3. Parti'r Cwm
7. Parti Cerdd Dant o dan 25 oed
1. Aelwyd Chwilog
2. Parti Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn
8. Triawd neu Bedwarawd Cerdd Dant
1. Ceri, Ruth a Siriol, Conwy
2. Pedwarawd Cennin, Caernarfon
3. Lleucu, Fflur, Annest a Mared, Bala
9. Deuawd Cerdd Dant 21 oed a throsodd
1. Siriol a Ruth, Dyffryn Clwyd
2. Elin ac Anna, Pentreuchaf, Pwllheli
3. Carol a Helen, Botwnnog ac Aberystwyth
10. Deuawd Cerdd Dant o dan 21 oed
1. Branwen a Hanna, Llanbedr Dyffryn Clwyd
2. Ela Mablen Griffiths-Jones ac Olivia Davies, Llanybydder
3. Gwenan ac Ynyr, Rhuthun
17. Côr Adloniant: Côr heb fod yn llai nag 20 mewn nifer
1. Côr CF1
2. Côr Ieuenctid Môn
3. Côr Llanddarog
18. Côr Cymysg: heb fod yn llai nag 20 mewn nifer
1. Côr Llundain
2. Côr Dyffryn Clwyd
3. Côr CF1
19. Côr Lleisiau Tenor | Bas : heb fod yn llai nag 20 mewn nifer
1. Côr Meibion Machynlleth
2. Côr Meibion Llangwm
3. Côr Meibion Ar ôl Tri
20. Côr Lleisiau Soprano | Alto : heb fod yn llai nag 20 mewn nifer
1. Aelwyd Chwilog, Chwilog
2. Tegalaw, Bala
3. Lleisiau Mignedd, Caernarfon
21. Côr i rai 60 oed a throsodd : heb fod yn llai nag 20 mewn nifer
1. Côr Hen Nodiant, Caerdydd
2. Encôr, Porthaethwy
3. Côr Cynhaearn, Porthmadog a'r cylch
22. Côr Ieuenctid o dan 25 oed : heb fod yn llai nag 20 mewn nifer
1. Côr Ieuenctid Mon
2. Merched Plastaf
3. Côr Iau Glanaethwy
25. Tlws Arweinydd Corawl yr Ŵyl er cof am Sioned James
1. Mari Lloyd Pritchard (Côr Ieuenctid Môn)
26. Côr yr Ŵyl
1. Côr Ieuenctid Mon
27. Ensemble Lleisiol Agored : 3-6 mewn nifer
1. Merched Mela, Pwllheli
2. Ensemble Dyffryn Clwyd, Abergele
3. Merched Iwan, Caerfyrddin
28. Ysgoloriaeth W Towyn Roberts
1. Erin Gwyn Rossington, Llanfair Talhaearn
2. Emyr Lloyd Jones, Caernarfon
3. Dafydd Jones, Dinbych
4. Robin Gruffudd Hughes, Llundain
29. Unawd Soprano 25 oed a throsodd
1. Heulen Cynfal
2. Sioned Llewelyn
3. Sara Davies
30. Unawd Mezzo-Soprano | Contralto | Uwchdenor 25 oed a throsodd
1. Catrin Mair Parry
2. Gerallt Rhys Jones
31. Unawd Tenor 25 oed a throsodd
1. Elis Jones
2. Efan Williams
3. Ben Ridler
32. Unawd Bariton | Bas 25 oed a throsodd
1. Ilan Jones
2. Twm Tegid
3. Andrew Evans
33. Gwobr Goffa David Ellis - Y Rhuban Glas
1. Heulen Cynfal
34. Canu Emyn i rai 60 oed a throsodd
1. Richard Treflyn Jones
2. Arfon Rhys Griffiths
3. Gwynne Jones
35. Unawd Lieder | Cân Gelf 25 oed a throsodd
1. Siôn Eilir Roberts
2. Aled Wyn Thomas
3. Lyndsey Vaughan Pleming
36. Unawd Lieder | Cân Gelf o dan 25 oed
1. Owain John, Llansannan, ger Dinbych
2. Erwan Hughes, Bethel
3. Llinos Haf Jones, Penarth
37. Unawd yr Hen Ganiadau 19 oed a throsodd
1. Dyfan Parry Jones, Machynlleth
2. Heulen Cynfal Y Parc, Bala
3. Bethan Elin, Ynys Môn
38. Unawd Soprano 19 ac o dan 25 oed
1. Manon Ogwen Parry, Penarth
2. Kathy Macaulay, Caerdydd
3. Ffion Mair Thomas, Crymych
39. Unawd Mezzo-Soprano | Contralto | Uwchdenor 19 ac o dan 25 oed
1. Llinos Haf Jones
2. Elen Wyn
40. Unawd Tenor 19 ac o dan 25 oed
1. Rhys Meilyr, Llangefni
2. Elis Garmon Jones, Llanuwchllyn
41. Unawd Bariton | Bas 19 ac o dan 25 oed
1. Owain Rowlands
2. Tomos Heddwyn Griffiths
3. Owain John
42. Gwobr Goffa Osborne Roberts - Y Rhuban Glas
1. Llinos Haf Jones
43. Unawd o Sioe Gerdd 19 oed a throsodd
1. Lili Mohammad
2. Siriol Elin
3. Ffion Elin Davies
44. Ysgoloriaeth Goffa Wilbert Lloyd Roberts
1. Lili Mohammad
45. Unawd o Sioe Gerdd o dan 19 oed
1. Leisa Mair Lloyd-Edwards, Dyffryn Nantlle
2. Alis Tomos, Caernarfon
3. Leusa Francis, Caernarfon
46. Unawd Soprano | Alto | Uwchdenor 16 ac o dan 19 oed
1. Branwen Medi Jones, Llanbedr Dyffryn Clwyd
2. Leisa Mair Lloyd-Edwards, Dyffryn Nantlle
3. Lea Morus Williams, Llansannan
47. Unawd Tenor | Bariton | Bas 16 ac o dan 19 oed
1. Guto Jenkins, Pencader, Llandysul
2. Gwern Morus Williams, Penmynydd
3. Ynyr Lewys Rogers, Rhuthun
48. Unawd Soprano | Alto 12 ac o dan 16 oed
1. Ela Mablen Griffiths-Jones
2. Alwena Mair Owen
3. Ela Mai Williams
49. Unawd Tenor | Bariton | Bas 12 ac o dan 16 oed
1. Efan Arthur Williams
2. Liam Arfon Jones
3. Deio Rhys
50. Unawd o dan 12 oed
1. Elen Dafydd Roberts
2. Awen Grug Hogg
3. Olwen Swyn
51. Gwobr Goffa Eleri Evans
1. Elain Rhys
52. Grŵp Offerynnol Agored
1. Maria a Gwenno
2. Triawd Ffliwt Canolfan Gerdd William Mathias
3. Ysgol Delyn Derwent
53. Rhuban Glas Offerynnol 19 oed a throsodd
1. Aisha Gwyneth Palmer
54. Unawd Chwythbrennau 19 oed a throsodd
1. Ruby Howells
2. Lleucu Parri
3. Daniel O'Callaghan
55. Unawd Llinynnau 19 oed a throsodd
1. Cai Charles
2. Thomas Mathias
3. Carys Barnes
56. Unawd Piano 19 oed a throsodd
1. Tomos Boyles
57. Unawd Offerynnau Pres 19 oed a throsodd
1. Freddie Hughes
58. Unawd Telyn 19 oed a throsodd
1. Aisha Gwyneth Palmer
2. Anna Phillips
3. Heledd Newton
60. Rhuban Glas Offerynnol 16 ac o dan 19 oed
1. Rufus Edwards
61. Unawd Chwythbrennau 16 ac o dan 19 oed
1. Catrin Edwards, Aberaeron
63. Unawd Piano 16 ac o dan 19 oed
1. Rufus Edwards, Wrexham
2. Catrin Edwards, Aberaeron
3. Gruffudd ab Owain, Y Bala
64. Unawd Offerynnau Pres 16 ac o dan 19 oed
1. George Hughes, Llysfaen
2. Glyn Porter, Caernarfon
3. Catrin Mai Huws-Thomas, Caernarfon
65. Unawd Telyn 16 ac o dan 19 oed
1. Cadi Glwys Davies, Dyffryn Tanat
2. Emma Cerys Buckley, Pontllyfni, Caernarfon
3. Megan Elan Jones
66. Unawd Offeryn/nau Taro 16 ac o dan 19 oed
1. Bryn Richards, Caerfyrddin
67. Rhuban Glas Offerynnol o dan 16 oed
1. Llew Mills
68. Unawd Chwythbrennau o dan 16 oed
1. Lea Mererid Roberts
2. Martha Nel
3. Christina Hutchinson-Rogers
69. Unawd Llinynnau o dan 16 oed
1. Michael Hutchinson-Rogers
70. Unawd Piano o dan 16 oed
1. Martha Rhys
2. Lea Mererid Roberts
3. Malena Gwynn Aled
71. Unawd Offerynnau Pres o dan 16 oed
1. Anna Celyn Evans
2. Leusa Francis
3. Gruffydd Siôn
72. Unawd Telyn o dan 16 oed
1. Alwena Mair Owen
2. Malena Gwynn Aled
3. Sali Mair
73. Unawd Offeryn/nau Taro o dan 16 oed
1. Llew Mills
74. Tlws y Cerddor
1. Lowri Mari Jones
75. Emyn-dôn gyfoes
1. Sian Wheway
76. Trefniant o unrhyw gân Gymreig gyfoes i fand pres a chôr addas fel diweddglo cyngerdd
1. Owain Roberts, Llundain
77. Unawd
1. Ruth Owen, Llanrwst
78. Darn ar gyfer ensemble telyn
1. Morfudd Sinclair, Stourport on Severn
80. Cystadleuaeth i ddisgyblion 16 ac o dan 19 oed
1. Rhiannon Iwerydd, Crymych
82. Tlws Cymdeithas Ddawns Werin Cymru
1. Dawnswyr Hafwyl, Caerfyrddin
2. Dawnswyr Môn, Ynys Mon
3. Dawnswyr Caernarfon, Caernarfon
83. Parti Dawnsio Gwerin o dan 25 oed
1. Dawnswyr Triban Talog, Sir Gaerfyrddin
2. Dawnswyr Gwenyn Talog, Sir Gaerfyrddin
3. Dawnswyr Nantgarw, Caerdydd
84. Dawns Stepio i grŵp
1. Dawnswyr Nantgarw, Caerdydd
2. Dawnswyr Talog, Sir Gaerfyrddin
3. Clocswyr Madryn, Pwllheli
85. Deuawd, Triawd neu Bedwarawd Stepio
1. Daniel a Morus Jones, Caerdydd
2. Aaron, Abel, Caian a Dion, Blaenycoed
3. Esther, Erin a Luned
86. Dawns Stepio Unigol mewn arddull draddodiadol i Fechgyn 18 oed a throsodd
1. Daniel Calan Jones, Caerdydd
2. Elwyn Siôn Williams, Caerdydd
3. Trystan Gruffydd
87. Dawns Stepio Unigol mewn arddull draddodiadol i Ferched 18 oed a throsodd
1. Lleucu Parri, Caerdydd
2. Elen Morlais Williams, Caerdydd
3. Gwennan Staziker
88. Dawns Stepio Unigol mewn arddull draddodiadol i Fechgyn o dan 18 oed
1. Morus Caradog Jones
2. Dion Ioan Jones
3. Caian Wyn Evans
89. Dawns Stepio Unigol mewn arddull draddodiadol i Ferched o dan 18 oed
1. Erin Eluned Jones
2. Cadi Glwys Davies
3. Luned Medi Defis
91. Parti o Ddawnswyr Di-Brofiad
1. Ysgafndroed
2. Dawnswyr Porth Neigwl
3. Dawnswyr Plenydd
94. Dawns greadigol | gyfoes i grŵp dros 4 mewn nifer
1. Grŵp Eilian, Amlwch
2. Ysgol Ddawns Sally Saunders, Llambed
95. Dawns aml-gyfrwng i bâr neu driawd mewn unrhyw arddull
1. Sally Saunders School of Dance - Amy & Anna, Llambed
2. Catherine ac Elen, Llundain
3. Lowri a Jodie, Llannerch-y-medd ag Amlwch
96. Dawns Unigol Disgo, Hip Hop neu Stryd 12 oed a throsodd
1. Ebony Morgans, Rhydaman
2. Mia Fflur, Amlwch
3. Olly Louis Fraser Jones, Caernarfon
97. Dawns Unigol Disgo, Hip Hop neu Stryd o dan 12 oed
1. Lal Prydderch Ifan, Bodedern
2. Elsa Gwyn Vaughan Pleming, Deiniolen
3. Mia Elin Mckeaveney, Llannerchymedd
98. Dawns Disgo, Hip Hop neu Stryd i Bâr neu Driawd
1. Lowri & Jodie
2. Mia Elin Mckeaveney & Lal Prydderch Ifan
3. Amber & Elan
99. Dawns Disgo, Hip Hop neu Stryd i Grŵp
1. Hudoliaeth
2. Bodiau Llachar Gwrachod
3. Disgyrchiant
102. Parti Canu : hyd at 12 mewn nifer
1. Parti Cyd Aberystwyth
2. Parti Nant Wiber
103. Sgets: Sgwrs mewn meddygfa
1. Grwp Hirnant: Amanda Laing and Nichola Bradley, Llanrhaeadr ym Mochnant
2. Parti Llambed, Llanbedr Pont Steffan
2. Mwtaniad: Kees Vugts, Kate Williams, Gary Williams, Sue Marcus, Llangammarch
105. Llefaru Unigol 16 oed a throsodd
1. Georgina Cornock-Evans, Pumpsaint
2. Susan Fogarty, Pwllheli
3. David Christie, Bangor
106. Unawd Lleisiol
1. Seren Parri, Birmingham
2. Peter Lane, Mynydd Nefyn
3. Roz Williams Jones, Chwilog
107. Cystadleuaeth Y Gadair
1. Sophie Roberts, Trelawnyd
108. Cystadleuaeth Y Tlws Rhyddiaith
1. Matt Elliott, Bae Colwyn
109. Darn o ryddiaith : Lefel Canolradd
1. Joan Benison, Caerdydd
110. Darn o ryddiaith : Lefel Sylfaen
1. Helen Morris, Matlock
111. Darn o ryddiaith : Lefel Mynediad
1. Lesley Butler, Porthmadog
112. Flog (blog fideo)
1. Linda McGrath, Bootle
Gwerin
115. Côr Alaw Werin dros 20 mewn nifer
1. Côr yr Heli
2. Côr Glanaethwy
3. Côr Cymunedol Yr Ynys
116. Parti Alaw Werin hyd at 20 mewn nifer
1. Eryrod Meirion
2. Lodesi Dyfi
3. Aelwyd Chwilog
117. Parti Alaw Werin o dan 25 oed hyd at 20 mewn nifer
1. Aelwyd Yr Ynys
2. Aelwyd Chwilog
118. Gwobr Goffa y Fonesig Ruth Herbert Lewis 21 oed a throsodd
1. Cai Fôn Davies
2. Cadi Mars Jones
3. Siriol Elin
119. Unawd Alaw Werin 16 ac o dan 21 oed
1. Branwen Medi Jones
2. Cadi Gwen Williams
3. Leisa Mair Lloyd-Edwards
120. Unawd Alaw Werin 12 ac o dan 16 oed
1. Fflur Erin Edwards
2. Cari Lovelock
3. Non Alaw Prys
121. Unawd Alaw Werin o dan 12 oed
1. Awen Grug Hogg
2. Elen Dafydd Roberts
3. Nanw Melangell Griffiths-Jones
Llefaru
130. Côr Llefaru dros 16 mewn nifer
1. Genod Llŷn
2. Sarn Helen
3. Lleisiau Cafflogion
131. Parti Llefaru hyd at 16 mewn nifer
1. Parti Man a Man
2. Mamau Genod Llŷn
3. Yr Alltudion
132. Gwobr Goffa Llwyd o'r Bryn 21 oed a throsodd
1. Anni Llŷn
133. Llefaru Unigol 21 oed a throsodd
1. Cai Fôn Davies, Bangor
2. Hanna Llŷn, Caerdydd
3. Siôn Jenkins, Llandysilio, Sir Benfro a Treganna, Caerdydd
135. Y Rhuban Glas Ieuenctid: Llefaru Unigol 16 ac o dan 21 oed
1. Sara Elan Jones, Llanbedr Pont Steffan
2. Erin Llwyd, Corwen
3. Gwenan Mars, Dinbych
136. Llefaru Unigol 12 ac o dan 16 oed
1. Gwenno Llwyd Beech
2. Beca Dwyryd
3. Trystan Bryn Evans
137. Llefaru Unigol o dan 12 oed
1. Awel Grug Lewis
2. Ruby Haf James
3. Elain Grug Williams
138. Llefaru Unigol o'r Ysgrythur 16 oed a throsodd
1. Meleri Morgan
2. Daniel O'Callaghan
3. Cai Fôn Davies
139. Llefaru Unigol o’r Ysgrythur o dan 16 oed
1. Peredur Hedd Llywelyn
2. Fflur McConnell
3. Olwen Roberts
140. Perfformio Darn Digri Agored heb fod yn hwy na 4 munud o hyd : Cymdeithas Eisteddfodau Cymru
1. Peredur Hedd Llywelyn
2. Erin Dwyfor Roberts
3. Gwion Dafydd Bowen
Llenyddiaeth
143. Cyfansoddi 3 cerdd heb eu cyhoeddi na’u darlledu: Agored
1. Osian Owen, Twtil, Caernarfon
144. Englyn Unodl Union: Ynys
1. Alan Llwyd, Abertawe
145. Cerdd Gaeth heb fod dros 30 o linellau: Mur neu Muriau
1. Alan Iwi, Didcot
146. Telyneg: Neb
1. Meinir Ebbsworth, Cwrtnewydd
147. Sianti: Agored
1. Elen Williams, Pwllheli
148. Soned: Ffenestr neu Ffenestri
1. Alan Llwyd, Abertawe
149. Tair Cerdd i Blant: Agored
1. Gwen James, Caernarfon
150. Geiriau Cân yn y Dull Canu Gwlad: Agored
1. Elen Williams, Pwllheli
151. Tair o Gerddi Byrion Ysgafn: Agored
1. John Wyn Jones, Llangefni
157. Gwobr Stori Fer Tony Bianchi
1. Math Wiliam, Caerdydd
158. Stori fer ffraeth
1. Gwenda Richards, Caernarfon
159. Casgliad o 9 darn o Lên Meicro
1. Sian Meinir, Penarth
160. Ysgrif
1. Morgan Owen, Aberystwyth
161. Erthygl
1. Carwyn Tywyn, Porth Tywyn
163. Sgript i eitem podlediad hyd at 10 munud: Agored
1. Carwyn Tywyn, Porth Tywyn
164. Tlws yr Ifanc i rai o dan 25 oed
1. Gruffudd Emrys ab Owain, Y Bala
165. Cystadleuaeth i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes ac sy’n dal i fyw yn yr Ariannin
1. Alwen Green, Trevelin
Theatr
166. Actio Drama neu waith dyfeisiedig
1. Ffermwyr Ifanc Uwchaled, Cerrigydrudion
2. Cwmni Drama Llanystumdwy, Llanystumdwy
3. Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst
167. Actor gorau cystadleuaeth 166
1. Gwyn Wheldon — Cwmni Drama Llanystumdwy
Aled Davies, Chwilog – Gweinidog bro a chyfarwyddwr y Cyngor Ysgolion Sul a Chyhoeddiadau'r Gair
Edwin Humphreys, Pentreuchaf – un o gerddorion mwyaf dylanwadol y sîn roc
Ywain Myfyr, Dolgellau – un o sefydlwyr Gŵyl Werin Geltaidd Dolgellau a Sesiwn Fawr Dolgellau. Aelod o grwpiau Cilmeri a Gwerino
Esyllt Nest Roberts de Lewis, Y Wladfa – aeth i Batagonia dan y Cynllun Dysgu Gymraeg bron ugain mlynedd yn ôl. Mae'n gweithio athrawes Gymraeg, athrawes delyn, cyfieithydd a golygydd
Gareth Roberts, Deiniolen – wedi gweithio dros les pobl ifanc Menter Fachwen, disgyblion ysgol a phobl ei ardal
Glyn Tomos, Caernarfon – sefydlodd y cylchgrawn roc Sgrech ar ddiwedd y 1970au. Sefydlodd Papur Dre yng Nghaernarfon
Mari Lloyd Pritchard, Biwmares – bu'n gyfrifol am ailsefydlu Theatr Ieuenctid Môn. sefydlodd Gôr Ieuenctid Môn ac arweinydd Encôr, côr ar gyfer aelodau dros 60 oed
Gareth 'Neigwl' Williams, Botwnnog – bardd a chyfrannwr colofn i'w bapur bro, Llanw Llŷn
Heulwen Davies, Dolanog - urddir am ei chyfraniad fel arweinydd Aelwyd Penllys am gyfnod o dri deg mlynedd, a hynny'n gwbl wirfoddol
Richard Owen, Penrhyn-coch, Aberystwyth. Rhoddodd oes o wasanaeth i'r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru drwy'i waith gyda Chyngor Llyfrau Cymru am dros dri deg mlynedd.
Jeffrey Howard, Caerdydd - organydd dawnus a chyfarwyddwr cerdd sy'n un o gyfeilyddion swyddogol yr Ŵyl er ugain mlynedd a mwy. Derbyniodd Wobr Joseph Parry am ei gyfraniad i gerddoriaeth yng Nghymru yn 2018.
Marion Loeffler, Caerdydd - wedi ei magu yn yr Almaen, symudodd i Gymru, a bu'n gweithio yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd am flynyddoedd. Bellach mae'n Ddarllenydd ym maes Hanes Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.
Carlo Rizzi, Penarth - arweinydd adnabyddus, sydd wedi bod yn Arweinydd Cerddoriaeth Opera Cenedlaethol Cymru ac wedi gweithio gyda chwmnïau ar draws y byd.
Gwisg Las
Mabon ap Gwynfor – gwleidydd ac ymgyrchydd sy'n Aelod o'r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd ers 2021
Meryl Davies, Pwllheli – Cyn-reolwr ward yn Ysbyty Bryn Beryl Pwllheli, mae wedi codi miloedd o bunnau i elusennau. bu'n Llywydd Cenedlaethol Merched y Wawr
Owain Idwal Davies, Llanrwst – yn y gwasanaeth hamdden ac yna yn y weinidogaeth, mae wedi bywiogi'i fro drwy egnïo'r iaith a rhannu'i gariad at ddiwylliant a chwaraeon
Hywel Edwards, Padog, Betws-y-coed – un o wirfoddolwyr diwyd sy'n cynorthwyo a chefnogi Arolygydd Gwisgoedd yr Orsedd
Marian Edwards, Padog, Betws-y-coed – un o wirfoddolwyr diwyd sy'n cynorthwyo a chefnogi Arolygydd Gwisgoedd yr Orsedd
Siân Eirian, Llangernyw – wedi gweithio yn ddiwyd dros fudiad yr Urdd ac wedi bod yn Gyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd. Roedd yn gyfrifol am greu gwasanaeth Cyw a Stwnsh yn ystod ei chyfnod fel Pennaeth Rhaglenni Plant a Phobl Ifanc S4C
Kenneth Fitzpatrick, Morfa Nefyn – cyn-swyddog morwrol harbwr a harbwr-feistr ym Mhwllheli, Porthmadog a'r Bermo
Mared Gwyn Jones - â'i gwreiddiau yn Nefyn a Llanbedrog, Mared Gwyn, Brwsel yw llais Cymru yn Ewrop
Aled Hughes, Llanfairpwll - un o Hogia' Llŷn, a'i wreiddiau'n ddwfn yn nalgylch y Brifwyl eleni. Cyflwynwydd rhaglen gylchgrawn ddyddiol ar Radio Cymru
Kristoffer Hughes, Bodorgan - bu'n gweithio fel technegydd patholegol ar gyfer y Crwner yng ngogledd orllewin Cymru. Yn adnabyddus fel y comedïwr drag, Magi Nogi, ac mae'n bennaeth Urdd Derwyddon Môn
Terry Jones Hughes, Tudweiliog - Un o hoelion wyth ei filltir sgwâr a'i gymuned leol. Yn amaethwr tan iddo ymddeol, mae'r capel a'r diwylliant Cymraeg yn Llŷn yn agos at ei galon
Andrew John - Bu'n yn Esgob Bangor er 2009 ac yn Archesgob Cymru er 2021
Christine Jones, Pwllheli - urddir am ei chyfraniad diflino i gymuned ei milltir sgwâr dros flynyddoedd lawer. Yn gefnogwr brwd yr Ŵyl Cerdd Dant a'r Eisteddfod, chwaraeodd ran flaenllaw yn codi arian yn lleol eleni
Dewi Bryn Jones, Garndolbenmaen - prif arloeswr technolegau'r iaith Gymraeg. Gwnaeth fwy nag unrhyw un i ddatblygu adnoddau ac offer iaith gyfrifiadurol ar gyfer y Gymraeg. Ef yw arweinydd tîm yr Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor.
Hywel Jones, Ysbyty Ifan - un o'r tîm bychan o wirfoddolwyr diwyd sy'n cynorthwyo a chefnogi Ela Jones, Arolygydd Gwisgoedd yr Orsedd
John Llyfnwy Jones, Llithfaen - fyddai Llithfaen ddim yn Llithfaen heb John Llyfnwy - mae'n rhan mor annatod o'r pentref. Roedd yn un o brif sylfaenwyr Tafarn y Fic
Linda Jones, Ffestiniog - bu'n weithgar yn ardal Blaenau Ffestiniog ers blynyddoedd, ac yn un o sefydlwyr cwmni Seren, un o fentrau cymdeithasol blaenllaw Cymru
Mair Jones, Llaniestyn - mae wedi codi miloedd o bunnoedd i wahanol elusennau. Mae'n cymryd rhan flaenllaw yn ymgyrch Operation Christmas Child bob blwyddyn
Malcolm Jones, Tremadog - mae wedi cymryd rhan yn Ras yr Wyddfa bob blwyddyn er ei chychwyn ddeugain a chwech o flynyddoedd yn ôl. Cynrychiolodd Gymru mewn sawl cystadleuaeth rhedeg mynydd rhyngwladol gyda chryn lwyddiant
Gwyn Mowll, Llanrug - mae wedi treulio dros ddeugain mlynedd yn dysgu, cefnogi a hwyluso karate traddodiadol 'Shotokan' yng Nghymru yn wirfoddol. Ar ddechrau'r 1990au, chwaraeodd ran allweddol yn y gwaith o greu Ffederasiwn Karate Traddodiadol Cymru
Enid Owen, Botwnnog - wedi ymgymryd â swyddi mewn cymdeithasau bach a gwirfoddoli i roi profiadau i blant a phobl ifanc. Dechreuodd Enid yr arferiad o gystadlu yng nghystadlaethau canu'r Urdd gyda phlant Adran Botwnnog
Llinos Angharad Owen, Beddgelert - Ar ôl gyrfa ym myd addysg, yn gweithio bellach i elusen Tir Dewi, sy'n cynorthwyo ffermwyr a'u teuluoedd gyda phryderon a phroblemau
Rhiannon Parry, Pen-y-groes - yn sylfaenydd a golygydd papur bro Y Gadlas am flynyddoedd, ers symud i Ddyffryn Nantlle a wedi cyfrannu colofn fisol i'r papur lleol, Lleu.
Alun Roberts, Caernarfon - ymgorfforiad o'r ysbryd cymunedol Cymreig ar ei orau, o gefnogi gweithwyr ffatri Friction Dynamics i'w waith gyda Banc Bwyd Caernarfon, ac o brosiectau fel Porthi Pawb i'r fenter O Law i Law
Alwyn Roberts, Llanuwchllyn - gynghorydd cymuned poblogaidd ar gyngor plwyf Llanuwchllyn ac yn Gyn-gadeirydd y Cyngor. Mae'n aelod o Gôr Godre'r Aran a hefyd o barti Tri Gog a Hwntw, sy'n cynnal nosweithiau llawen, ac mae'n Ysgrifennydd Eisteddfod Gadeiriol y pentref er 2001
Nicola Saffman, Caernarfon - yn wreiddiol o Fanceinion, symudodd i Gymru a dysgodd y Gymraeg. Bu'n Ddirprwy-grwner gogledd orllewin Cymru am ugain mlynedd - y ferch gyntaf yn y swydd
Catrin Elis Williams, Bangor - bu'n ysgrifennydd Y Gymdeithas Feddygol am sawl blwyddyn ac yn uwch-ddarlithydd yn Ysgol Gwyddorau Meddygol Prifysgol Bangor, yn hyrwyddo addysg feddygol yng ngogledd Cymru a chyfrannu at osod sail yr Ysgol Feddygol yn y gogledd
Ruth Wyn Williams, Bangor - wedi cyfrannu'n sylweddol at wella ansawdd gwasanaethau nyrsio anableddau dysgu yng Nghymru
Einir Wyn, Aber-soch - gweithiodd yn ddiflino i gadw'r ysgol leol ar agor, ac er mai ofer fu'r ymdrechion, cyflwynodd lyfrau o'r hen ysgol i elusen sy'n hyrwyddo a datblygu gallu addysgol disgyblion ysgolion cynradd, uwchradd a phrifysgolion gwledydd Affrica.
Pedr ap Llwyd, Aberystwyth - Yn wreiddiol o Benrhyndeudraeth, ef yw Llyfrgellydd Cenedlaethol Cymru. Fel rhan o'i weledigaeth i hyrwyddo hygyrchedd, llwyddodd yn ystod y cyfnod clo i ysgogi gweithlu'r Llyfrgell i gyflymu prosesau trawsnewid digidol er mwyn sicrhau bod ein treftadaeth ddogfennol yn fwy hygyrch i bawb
Anwen Butten, Llanbedr Pont Steffan - urddir am ei chyfraniad arbennig i'r gamp o bowls dros gyfnod o 30 mlynedd. Hi oedd Capten Tîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2022
Dyfrig Davies, Llandeilo - Mae'n Gadeirydd yr Urdd, ac arweiniodd y mudiad yn gadarn a theg drwy bandemig COVID-19 a dathliadau'r canmlwyddiant yn 2022. Yn Gadeirydd TAC, mae'n rhan allweddol o'r diwydiant creadigol yng Nghymru, gan gefnogi cwmnïau cynhyrchu bach a mawr i sicrhau fod y berthynas ag S4C yn ffynnu.
Geraint Lloyd, Lledrod - un o leisiau mwyaf adnabyddus Radio Cymru am flynyddoedd lawer. Dechreuodd ei yrfa gyda Radio Ceredigion, ac eleni ymunodd â gorsaf radio Môn FM
John Mahoney, Caerfyrddin - pêl-droediwr a chwaraeodd dros Gymru. Wedi i'w yrfa ddod i ben yn 1983, aeth ati i ddysgu Cymraeg, gan fynychu sesiynau lefel uwch 'Siawns am Sgwrs' yng ngorllewin Cymru.
Laura McAllister, Caerdydd - Athro Llywodraethiant a Pholisi Cyhoeddus ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae'n Gyd-gadeirydd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Eleni, fe'i hetholwyd i Bwyllgor Gweithredol UEFA: mae hi bellach yn Is-lywydd y corff hwnnw
John Roberts, Aberystwyth llais cyfarwydd ar Radio Cymru am flynyddoedd lawer yn cyflwyno rhaglen Bwrw Golwg ar foreau Sul. Mae hefyd yn llenor, a chyhoeddodd ddwy nofel o safon