Gofynnwyd am awdl heb fod dros 800 llinell. Y beirniaid oedd Dyfed, Pedrog, Isaled, Elfed a Cheulanydd. Roedd 6 ymgeisydd ond yn anffodus doedd neb yn deilwng o'r wobr ariannol o £21 a chadair dderw gwerth £10.
Y Corau
Enillwyd y brif gystadleuaeth gorawl gan y Cardiff Choral Society, a'r brif gystaleuaeth corau merched gan Abertawe gyda 7 cor yn cystadlu. Yng nghystadleuaeth y Corau Meibion rhwng 60 ac 80 o leisiau, Barry District Glee Society oedd yr enillwyr.
Y Cyngherddau
Cyngerdd Nos Fawrth - Y Llywydd oedd Owen Morgan Edwards. Cyngerdd mawreddog o gerddoriaeth Gymraeg amrywiol gyda Gertude Drinkwater, Hannah Jones, Ben Davies, W. Trevor Evans, Daniel Price, band o delynau a'r Royal Welsh Ladies Choir.
Cyngerdd Nos Fercher - Eleias gyda Côr yr Eisteddfod a cherddorfa gyda T.E. Aylward yn arwain ac wyth unawdydd.
Cyngerdd Nos Iau - The Golden Legend gan Syr Arthur Sullivan gyda Chôr yr Eisteddfod a 100 aelod.
Cyngerdd Nos Wener: Amrywiol gyda 4 unawdydd ac enillwyr unawdau a chorau'r dydd.
Cynmgerdd Nos Sadwrn: Grand Evening Concert. Côr yr Eisteddfod o 500 o leisiau gyda'r band pres buddugol.
[1]
↑ 1.01.1Credir mai yn Rhaglen y Dydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd a'r Cylch 2008 y cafwyd y wybodaeth er gall fod yn un o Raglen y Dydd un o Eisteddfod eraill Caerdydd