Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1938 yng Ngerddi Sophia, Caerdydd.
Am y tro cyntaf ers blynyddoedd yr oedd y cystadlaethau llenyddol yn Gymraeg i gyd. Hefyd penderfynodd y Pwyllgor Gwaith nad oedd neb i gael llywyddu yn yr Eisteddfod hon oni byddai naill ai yn gwasanaethu Cymru ar hyn o bryd neu â chysylltiad byw â hi. Yn ôl erthygl yn Atgofion Eisteddfod 1938 yn Rhaglen y Dydd, Eisteddfod 2008, cafwyd o'r diwedd Babell Lên deilwng o'r Eisteddfod, Theatr Tywysog Cymru at wasanaeth y ddrama, a Neuadd y Ddinas i'r Arddangosfa Celf a Chrefft.
Yn ôl yr un erthygl, cynhaliwyd brynhawn Mercher gyfarfod yn Neuadd y Ddinas, dan nawdd Undeb Cenedlaethol y Cymdeithasau Cymraeg, i ystyried safle gyfreithiol yr iaith Gymraeg. Penderfynwyd mynd ymlaen â'r Ddeiseb Genedlaethol i hawlio cydnabyddiaeth swyddogol i'r iaith yn llysoedd barn Cymru ac yn ei bywyd cyhoeddus. Ddydd Llun, cynhaliodd Cymdeithas y Cymmrodorion gyfarfod i ystyried cyhoeddi Geiriadur Bywgraffyddol Cenedlaethol o dan olygiaeth R. T. Jenkins a J. E. Lloyd.
Rhoddwyd y gadair gan Gymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd am awdl ar un o ddau destun, sef 'Rwy'n edrych dros y bryniau pell' neu 'Trystan ac Esyllt'. Y beirniaid oedd T. Gwynn Jones a Saunders Lewis.