Laura McAllister

Laura McAllister
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnLaura Jean McAllister[1]
Dyddiad geni1964 (60–61 oed)
Man geniPen-y-bont ar Ogwr
SafleAmddiffynnwr
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
Millwall Lionesses
Merched Dinas Caerdydd
Tîm Cenedlaethol
1994–1998Cymru24(0)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 21:13, 15 Tachwedd 2014 (UTC).

† Ymddangosiadau (Goliau).

‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar 21:13, 15 Tachwedd 2014 (UTC)

Academydd, gwleidydd a chyn chwaraewr pêl-droed yw'r Athro Laura Jean McAllister CBE (ganed 1964) sydd yn gadeirydd Chwaraeon Cymru. Fel chwaraewr pêl-droed yn nhîm cenedlaethol merched Cymru, enillodd McAllister 24 o gapiau, a bu'n gapten y tîm. Safodd fel ymgeisydd etholiadol dros Blaid Cymru yn 1987 a 1992. Ar hyn o bryd mae'n Athro Polisi Cyhoeddus a Llywodraethu Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.

Fe'i penodwyd yn Gadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) yn Anrhydeddau Pen-blwydd 2016 am ei gwasanaeth i chwaraeon yng Nghymru.[2]

Gyrfa Academaidd

Derbyniodd McAllister ei addysg Uwchradd yn Ysgol Bryntirion Pen-y-bont ar Ogwr. Graddiodd o Ysgol Economeg Llundain, lle y cwblhaodd BSc (Econ.) mewn llywodraethu, ac o Brifysgol Caerdydd, lle cwblhaodd PhD mewn Gwleidyddiaeth. Bu'n Athro Llywodraethu ym Mhrifysgol Ysgol Rheolaeth Lerpwl rhwng 1998 a Hydref 2016. Mae hi'n aelod o Gymdeithas Ddysgedig Cymru.

Mae ganddi raddau anrhydeddus o Brifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, a Phrifysgol Abertawe[3].

Gyrfa wleidyddol

Safodd fel ymgeisydd Plaid Cymru yn Etholiad cyffredinol 1987 yn etholaeth Penybont ar Ogwr, ac yn etholaeth Ogwr yn Etholiad cyffredinol 1992.

Roedd yn aelod o Fwrdd Cydnabyddiaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru o 2014 i 2015, yn gynghorydd i'r Panel Annibynnol ar Dâl a Chefnogaeth Aelodau'r Cynulliad o 2008 i 2009, ac yn aelod o Gomisiwn Richard rhwng 2002 a 2004.

Bu'n aelod o fwrdd Stonewall o 2012 i 2015, ac ar hyn o bryd mae'n aelod o fwrdd Y Sefydliad Materion Cymreig.

Gyrfa Pêl-droed

Gyrfa clwb

Ni chwaraeodd McAllister bêl-droed dan drefn ffurfiol nes iddi ymuno â'r Millwall Lionesses wrth astudio yn Ysgol Economeg Llundain. Ar ôl iddi ddychwelyd i Gymru treuliodd 12 mlynedd gyda Dinas Caerdydd.[4] Casglodd McAllister ddwy fedal enillwyr Cwpan Merched Cymru a enillodd ddyrchafiad i Uwch Gynghrair Merched Cymru gyda Chaerdydd.[5]

Gyrfa ryngwladol

Yn 1992 roedd McAllister yn un o dri bêl-droediwr benywaidd a bwysodd ar ysgrifennydd Cymdeithas Bêl-Droed Cymru (FAW), Alun Evans i roi cydnabyddiaeth i bêl-droed merched yng Nghymru.[6] Rhoddwyd tîm swyddogol at ei gilydd a chystadlodd yn nhwrnamaint cymhwyster i Bencampwriaeth Merched UEFA 1995. Gwnaeth McAllister ei ymddangosiad cyntaf i Gymru yn yr ail gêm, ac fe drechwyd Cymru 12-0  gan yr enillwyr yn y pen draw, yr Almaen yn Bielefeld.

Llyfryddiaeth

Mae'r Athro McAllister wedi cyhoeddi nifer o lyfrau gan gynnwys;

  • Plaid Cymru: The Emergence of a Political Party; Seren 2001 ASIN B019TLTNMG
  • Women, Politics and Constitional Change: The First Years of the National Assembly for Wales (Politics & Society in Wales); gyda Paul Chaney a Fiona Mackay; Prifysgol Cymru 2007 ASIN B01K0TPJ9M
  • Dafydd Ellis Thomas: A Biography; Prifysgol Cymru 2008 ISBN 978-0708318300

Cyfeiriadau

  1. "Wales 0 - 3 Republic of Ireland". Football Association of Ireland. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2014.
  2. London Gazette: (Supplement) no. 61608. p. B9. 11 June 2016.
  3. "Swansea University honours academic, politician and footballer, Professor Laura". Prifysgol Abertawe. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-05-14. Cyrchwyd 2018/04/07. Check date values in: |access-date= (help)
  4. Shipton, Martin (12 Chwefror 2012). "There's really nothing more heart-warming than seeing the smile on a child's face when they've caught a ball; New head of Sport Wales reveals her goals". Western Mail (Wales). Cyrchwyd 15 Tachwedd 2014.
  5. McAllister, Laura. "Interview with the footballer Laura McAllister". People's Collection Wales. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2014.
  6. Jones, Karen (21 Tachwedd 2011). "Karen Jones/ Secretary/ Cardiff City LFC". She Kicks. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2014. More than one of |archiveurl= a |archive-url= specified (help); More than one of |archivedate= a |archive-date= specified (help)

Dolenni allanol