Drwm

Drymiau timpani ar gyfer cerddoriaeth glasurol

Offeryn cerdd sy'n cael ei taro yw drwm. Mae'n cynnwys o leiaf un croenyn, wedi ei dynnu'n dynn dros ffrâm, sy'n cael ei guro â llaw, darn o bren neu offeryn arall i gynhyrchu sŵn. Ceir drymiau ymhob rhan o'r byd, ac ystyror mai hwy yw'r offerynnau cerdd hynaf. Mae'r sŵn a gynhyrchir gan ddrwm yn dibynnu ar nifer o ffactorau, megis maint y drwm a thrwch a thyndra y croenyn. Gellir defnyddio nifer o ddrymiau gwahanol i gawl amrywiaeth sŵn.

Y drwm cynharaf y gwyddys amdano yw un o Mezhirich, ger Kiev yn yr Wcrain, sy'n dyddio i tua 15,000 o flynyddoedd yn ôl. Cafwyd hyd iddo yng ngweddillion y tŷ hynaf i'w ddarganfod, wedi ei adeiladu o esgyrn mammoth. Gwnaed y drwm o benglof mamoth.

Heblaw eu pwrpas cerddorol, gellir defnyddio drymiau i gyfathrebu dros bellter; er enghraifft yn Affrica a Sri Lanca.

Mae mathau o ddrwm yn cynnwys y conga a'r bongos.

Cyfeiriadau

Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.