Cerddoriaeth yw celfyddyd a fynegir drwy gyfrwng sŵn wedi'i drefnu mewn amser. Elfennau cyffredinol cerddoriaeth yw traw sy'n rheoli alaw a harmoni, rhythm (a'i gysyniadau perthynol tempo a mydr), deinameg, soniaredd a gwead.
Mae'r cread, perfformiad, arwyddocâd a hyd yn oed diffiniad cerddoriaeth yn amrywio yn ôl diwylliant a chyd-destun cymdeithasol. Mae cerddoriaeth yn amrywio o gyfansoddiadau trefniedig llym (a'u hail-gread yn ystod perfformiad) i ffurfiau cerddorol byrfyfyriol. Fe ellir rhannu cerddoriaeth i mewn i genres gwahanol.
I bobl yn nifer o ddiwylliannau, mae cerddoriaeth yn rhan hanfodol o'u ffordd o fyw. Diffiniodd athronwyrGroeg ac India hynafol gerddoriaeth fel tonau wedi'u trefnu'n llorweddol fel melodïau ac yn fertigol fel harmonïau. Yn gyffredinol nid oes un cysyniad rhyng-ddiwylliannol sy'n diffinio beth yw cerddoriaeth heblaw ei bod yn 'sŵn drwy amser'.[1]
Hanes
Cyfnodau cyn-hanes
Mae'n rhaid bod datblygiad cerddoriaeth ymhlith bodau dynol cynnar wedi digwydd wrth iddynt sylwi ar synnau naturiol fel y synnau y mae adar ac anifeiliaid eraill yn gwneud wrth gyfathrebu. Cerddoriaeth gyn-hanesyddol yw'r enw a roddir ar gerddoriaeth a gynhyrchwyd gan ddiwylliannau cyn-ysgrifen. Gall ysgolheigion ddychmygu cerddoriaeth gyn-hanesyddol wrth astudio olion a ddargynfuwyd ar safleoedd paleolithig, fel esgyrn gyda thyllau a ddefnyddiwyd fel ffliwt o ryw fath.[2]
Mae gan India un o'r traddodiadau cerddorol hynaf yn y byd; fe welir cyfeiriadau at gerddoriaeth glasurol Indiaidd (marga) yn llenyddiaeth hynafol y traddodiad Hindwaidd, y Veda. Mae gan draddodiad cerddorol Tsieina hanes o dair mil o flynyddoedd ac roedd cerddoriaeth yn agwedd bwysig ar fywyd diwylliannol yng Ngroeg hynafol