Pentref yng ngogledd Ceredigion yw Pontrhydfendigaid[1] (neu Pont-rhyd-fendigaid). Fe'i adnabyddir ar lafar yn lleol fel Y Bont.
Mae'n gorwedd ar lan Afon Teifi yn agos i'w tharddle ym mryniau Elenydd, canolbarth Cymru. Cymryd y pentref ei enw o hen ryd ar yr afon honno a'r bont a godwyd yno. Mae ar lôn y B4343 rhwng Tregaron i'r de a Phontarfynach i'r gogledd, tua 13 milltir i'r de-ddwyrain o Aberystwyth.
Cynhelir eisteddfod flynyddol ym Mhontrhydfendigaid, sef Eisteddfod Pantyfedwen ("Steddfod Bont"). Yma hefyd ceir Pafiliwn Bont, adeilad amlbwrpas modern lle cynhelir cyngherddau a digwyddiadau eraill. Mae'r ddau sefydliad yma wedi elwa'n fawr o haelioni Syr D.J. James, Pantyfedwen.