Pentref bychan yn sir Ceredigion yw Llangwyryfon, yn yr hen amser Llangwyryddon. Saif ar y ffordd B4576, tua naw milltir i'r de-ddwyrain o Aberystwyth. Mae Afon Wyre yn llifo trwy'r pentref.
Cysegrwyd yr eglwys i'r Santes Ursula a'r unarddeg mil o wyryfon a ferthyrwyd gyda hi. Roedd yr hen eglwys ynghanol y fynwent, ond yn 1879 adeiladwyd eglwys newydd tu allan i'r fynwent.
Cofnodir i Daniel Rowland, William Williams (Pantycelyn) a Howel Harris gynnal seiadau yma rhwng 1743 a 1750.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]
Rhyfel y Sais Bach
Ar 14 Mai 1826 (198 blynedd yn ôl) – daeth 700 o Gymry at ei gilydd yn yr hyn a elwir yn Rhyfel y Sais Bach - gan atal Augustus Brackenbury, tirfeddiannwr cyfoethog o Swydd Lincoln rhag codi plasty yn Llangwyryfon. Yn dilyn y gwrthdaro, a dymchwel waliau'r adeilad, Ffodd am ei fywyd yn ôl i Loegr.[3]
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Llangwyryfon (pob oed) (596) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llangwyryfon) (342) |
|
59.3% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llangwyryfon) (345) |
|
57.9% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llangwyryfon) (73) |
|
29.4% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Cyfeiriadau